
Mae
Kate ac Anna McGarrigle yn ddwy chwaer o Québec sy'n canu gyda'i gilydd ac yn cyfansoddi canueon. Dwi wedi bod yn ffan ers blynyddoedd, i ddweud y gwir ers iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf yn 1975,
Kate and Anna McGarrigle. Ar y record honno maen nhw'n canu 'Heart like a wheel' a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel 'Calon fel olwyn' ac a ganwyd yn wych gan Heather Jones ar ei halbwm hithau,
Jiawl! yn 1976. Wel, maen nhw newydd ryddhau albwm 'Nadolig' wych dwi wedi bod yn gwrando ac yn gwrando arni, sef
The McGarrigle Christmas hour. Ar wefan
amazon.com fe allwch chi wrando ar dameidiau o'r albwm. Mae'n werth gwneud! Mae'r ffaith fod Emmylou Harris yn ymddangos ar yr albwm hefyd yn ychwanegu'n fawr at ei gwerth.
Tagiau Technorati:
Nadolig |
Cerddoriaeth |
Kate & Anna McGarrigle |
Heather Jones.