Gyda'r nos yn y Ty'n-lidiart, Capel Bangor, fe gefais i'r canlynol i'w bwyta: Melon a chorgimwch i ddechrau, yna twrci rhost Ceredigion gyda pheth o'r trimins (dim saws bara eto!), cacen gaws oren a siocled, a choffi gydag After Eight i orffen. Roedd popeth yn iawn, efallai taw'r unig gŵyn sy gen i yw fod y lle wedi bod yn rhy dywyll i weld beth oedden ni'n ei fwyta'n iawn. (Cliciwch ar y lluniau isod i'w gweld yn fwy.)
Dwi ddim yn gwybod am ba brofiadau sydd gan eraill ond i mi roedd 'After Eights' wastad yn rhoi rhyw gyffyrddiad o glamwr a glits yn fy mywyd llwydaidd arddegol, a phan fydda i'n dal i gael After Eights maen nhw'n llwyddo i wneud hynny o hyd. Fel mae melysion Ferrero Rocher wastad wedi'u cysylltu yn fy meddwl ag un o bartïon y 'Llysgennad' byddaf fi wastad yn cysylltu After Eights gyda'r math o gwmni a chymdeithas yr oeddwn i yn dyheu amdanynt ac ceisio ymgyrraedd tuag atynt o ganlyniad i wylio gormod ar raglenni Blue Peter ac ar hysbysebion After Eights eu hunain.
Mae archif Rowntree ym Mhrifysgol Caerefrog yn cynnwys rhai o'r hysbysebion hyn fel rhan o wefan ar hanes menywod. Fel hyn mae'r wefan yn adrodd hanes hysbysebu After Eights:
Still in the 1960s however, After Eights were now being sold as bought by those of a higher social class – the adverts depict dinner parties, expensive cars and well dressed women. These women fare no better than those in the 1950s black magic adverts however. They are shown as unable to manage accounts –‘will the butcher take After Eights in lieu of payment?' asks one woman whose books won't balance and also, with a reference to contemporary political issues, as unable to understand the common market and only concerned about how it may affect their chocolate buying.Dwi'n siŵr y gallai rhyw fyfyriwr ysgrifennu doethuriaeth ar fy mherthyhas i gyda bwydydd oedd yn fy 'nyrchafu' i ddosbarth uwch mewn cymdeithas - After Eights, Angel Delight a Vesta ready meals.
Rhagor o luniau o'r cinio ym Mhendinas.
Rhagor o luniau o'r parti yn Ty'n-lidiart.
Tagiau Technorati: Nadolig | After Eights | Bwyd | Atgofion.