
Mae'r gwyliau yn parhau, heddiw yw Gŵyl Ioan Apostol ac Efengylydd, ond dwi'n ofni 'mod i heb gofio rhyw lawer am hynny drwy'r dydd. Yn hytrach dwi wedi bod yn glanhau'r ystafell wely/swyddfa/stydi ac wedi clirio llawer o sbwriel oedd wedi ymgasglu o gwmpas y lle. Bues i mas am dro byr yn y bore, ac roedd hi'n oer iawn. Rhoddais alwad ffôn i ddiolch i GC am y croeso neithiwr ac i ddymuno pen blwydd hapus i IBJ! Yn y prynhawn fe ffoniodd Dr HW i drefnu imi ddod draw ato i ginio yfory. A chyda'r noson fe ffoniodd RO i ddweud ei fod wedi dychwelyd o'r gogledd - o swbwrbia Llangefni i swbwrbia Aberystwyth. Heblaw am hynny does dim rhyw lawer i'w adrodd.
Ffeil MP3Tagiau Technorati:
Stydi |
Nadolig |
Blog llafar.