Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-26

Nos Gŵyl Steffan

MLJ a TLlJ yn gwylio'r teleduDwi newydd ddod adref ar ôl bod mas am noson hyfryd gyda IBJ, GC a'r plant. Mae GC wastad yn garedig iawn imi ac roedd cael yn fy ngwahodd draw yn fraint ac yn fwynhâd. Nid fi oedd yr unig un i gael fy ngwahodd ychwaith, roedd MDel yn dod hefyd. Er mwyn dangos caredigrwydd ar ben caredigrwydd fe ddaeth IBJ i roi lifft lan imi. Bu'r ddau ohonom yn trafod yn y tŷy am bob mathau o bethau nes roedd hi'n amser mynd lan. Wedi imi gyrraedd yno roedd yn rhaid gweld beth oedd y plant wedi'i gael Nadolig. Roedd TLlJ yn chwarae gyda rhyw declyn a oedd yn caniatáu i Spiderman i wneud ei driciau; roedd MLJ hithau yn chwarae gêm fwrdd yn seiliedig ar Sudoku - roedd honno'n edrych yn gêm gymhleth iawn yr oedd angen bron y cyfan o lawr yr ystfaell fyw i'w chwarae. Mae gweld yr holl rifau mewn Sudoku ar bapur yn fy ngwneud yn anghysurus; roedd gweld yr holl rifau wedi'u gosod mas ar lawr yr ystafell fyw bron ag achosi rhyw fath o phobia! Pan nad oedd y ddau yn chwarae gyda'u hanrhegion roedden nhw'n edrych at y teledu.

Clwb Golff Dolgellau, 1937Yr hyn sy wastad yn dda yng nghwmni IBJ a GC yw bod ganddyn nhw wastad ddigon o bethau i'w trin a'u trafod, ac o ychwanegu MDel i'r cwmni hefyd roedd y sgwrsio yn ddifyr iawn. Un o'r pethau diddordol wnes i ddysgu am IBJ dros y gwyliau oedd bod ei dad-cu yn olffiwr proffesiynol yng Nghlwb Golff Dolgellau. Does dim llawer o bobl sy'n medru hawlio'r fath hynny o etifeddiaeth. Yr oedd wedi dod o hyd i gartŵn gan gan gartwnydd o'r enw 'Mel' yn y cylchgrawn Tatler ddiwedd 1930au gyda charicaturau o brif swyddogion y clwb golff. Cawsom gyfle hefyd i drafod y llyfrau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig - Cynog Dafis, Gwynfor Evans, Wyn Roberts, Capeli Cymru, &c. Fel y buasech yn disgwyl roedd pawb wedi mwynhau rhai ac yn cael eraill yn fwy o her i'w darllen!

Bryn Fôn a'r Band yn y PafiliwnWrth eistedd i lawr o flaen y teledu fe gafwyd bod cyngerdd Bryn Fôn a'r Band o Eisteddfod 2005 yn cael ei ddarlledu. Roedd DML a finnau wedi gwylio'r rhaglen nos Wener diwethaf a chael llawer iawn o fwynhâd o'r peth. Wel, fe gafwyd cyfle i ailfwynhau'r cyngerdd yng nghwmni cyfeillion eraill y tro hwn. Yn ddiddorol iawn roedd MDel yn dweud ei bod wedi cyrraedd y cyngerdd pan roedd rhyw hanner ffordd drwyddo yn y pafiliwn ar ôl clywed y sŵn o'r tu fas a'i bod wedi bod yn tynnu ffotograffau o'r cyngerdd. Roedd hi'n cadarnhau fod awyrgylch rhyfeddol yn y pafiliwn - cadarnhau yr hyn yr oeddech yn medru ei brofi hyd yn oed drwy'r teledu oedd hynny, ac os oedd hynny i'w brofi wrth wylio ar y teledu, mae'n rhaid ei bod hi'n noson wych yn fyw. Ac erbyn hyn roedd hi'n amser mynd adref!

Rhagor o luniau o'r noson yn nhŷ IBJ a GC.

Rhagor o luniau cyngherdd Bryn Fôn a'r Band yn y Pafiliwn, o'r teledu.

Tagiau Technorati: | | | .