Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-28

Gŵyl y Diniweidiaid

Yn traethuMae'r ŵyl fawr olaf drosodd am yr wythnos hon. Yn raddol bach mae pethau'n dod 'nôl i normalrwydd - heblaw nad oes gen i waith tan ddydd Mawrth yr wythnos nesaf. Fe godais yn weddol fore a mynd allan i brynu rhai pethau y bore 'ma. Amser cinio roeddwn i wedi cael gwahoddiad i dŷ Dr HW a bu yntau cyn garediced â dod i roi lifft imi. Roedd wedi paratoi cinio blasus dros ben ar gyfer y ddau ohonom. Treuliwyd y prynhawn wedi'r cinio yn trafod y peth hyn a'r peth arall, ac fe gefais weld o gwmpas y tŷ. Nid oeddwn wedi bod yno ers misoedd a misoedd. Mae ganddo ddwy ystafell sy'n silffoedd o'r nenfwd i'r llawr ac mae'r silffoedd hynny'n llawn llyfrau. Mae'r lle bron â bod fel rhyw ail lyfrgell 'genedlaethol' ond fod y cyfan wedi'i ddethol gan un dyn! Er mwyn cyrraedd y llyfrau ar y silffoedd uchaf mae e erbyn hyn wedi busoddi mewn cadair-ysgol sy'n werth ei gweld.

Fy ngwresogydd newyddWedyn 'nôl i'r dref a phrynu gwresogydd yn Woolworth er mwyn ceisio gwrthwneud effeithiau'r oerfel y tu fas. Yn y dref dyma gyfarfod â DJP oedd wedi dychwelyd o'r gogledd y diwrnod cynt ac wrthi'n paratoi am yr ymweliad â Bryste - mae e'n mynd yn gynnar bore 'fory. Fe gawsom ni goffi yn yr Home Caffee. Yna 'nôl i'r tŷ a gosod y gwresogydd - roedd angen sgriwiwr Philips i wneud hynny, ac yn garedig iawn dyma RO yn cynnig benthyg un imi pan fyddai'n dod i'm gweld gyda'r nos. Roedd RO yn dod i gael ychydig swper ac i wylio'r ffilm wych honno, The dead gan John Houston. Mae'n seiliedig ar stori fer o'r un enw a gyhoeddwyd gan James Joyce yn y gyfrol Dubliners, y stori olaf fel mae'n digwydd. Yn anffodus fe wrthododd y fideo redeg ac fe gawsom ein hunain yn gwylio Cefn gwlad gyda Dai Jones yn Nyffryn Banwy gyda Siân James a Pharti Cut Lloi!

Rhagor o luniau o fy ymweliad â thŷ HW am ginio.

Tagiau Technorati: | | .