Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-13

Llongyfarchiadau unwaith eto Rhodri!

Roeddwn i'n dechrau meddwl taw rhywbeth oedd yn bod arna fy mod yn ei chael hi'n anodd i ddeall y Prif Weinidog Rhodri Morgan pan oedd e'n siarad Cymraeg. Ond erbyn hyn, ag yntau wedi ennill gwobr y mudiad Plain English Campaign am yr eilwaith am fod yn gwbl annealladwy yn Saesneg hefyd, dwi'n sylweddoli nad gennyf fi mae'r broblem wedi'r cwbl. Yn ystod dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwygio yr heddlu fe ddywedodd yntau:
The only thing which isn’t up for grabs is no change and I think it’s fair to say it’s all to play for, except for no change.
Efallai nad oedd Gavin Henson yn medru ennill BBC Sports Personality of the Year yn erbyn Andrew Flintoff, ond mae Rhodri Morgan yn ganmil gwell na Tony Blair pan mae'n dod i ddealladwyaeth! Ac mae bod yn annealladwy yn ffordd o gadw'r gwir rhag pobol sydd รข llawer llai o risg na dweud celwydd.

Tagiau Technorati: | | .