 Heddiw fe fues i ar faes y sioe yn Llanelwedd ar gyfer cyfarfod o fforwm Cymru yr undeb Prospect. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel Pafiliwn Llywodraeth y Cynulliad. Er fy mod i wedi bod yn y lle nifer o weithiau o'r blaen, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn cael fy siomi bob tro. Oherwydd o glywed y gair pafiliwn dwi'n meddwl am garpedi persiaidd a sidan a phlateidiaid o lokum (neu, Turkish delight). Mae cerdd Samuel Taylor Coleridge, Kubla Khan, wastad yn dod i'r meddwl hefyd:
Heddiw fe fues i ar faes y sioe yn Llanelwedd ar gyfer cyfarfod o fforwm Cymru yr undeb Prospect. Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel Pafiliwn Llywodraeth y Cynulliad. Er fy mod i wedi bod yn y lle nifer o weithiau o'r blaen, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn cael fy siomi bob tro. Oherwydd o glywed y gair pafiliwn dwi'n meddwl am garpedi persiaidd a sidan a phlateidiaid o lokum (neu, Turkish delight). Mae cerdd Samuel Taylor Coleridge, Kubla Khan, wastad yn dod i'r meddwl hefyd:In Xanadu did Kubla KhanOnd fel y tystia'r llun nid yw Pafiliwn Llywodraeth y Cynulliad ar faes y sioe yn Llanelwedd yn debyg iawn i'r hyn wnaeth Kubla Khan ei orchymyn - Nicholas Crickhowell wnaeth orchymyn hwn yn 1980au pan roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rhaid imi ddechrau dysgu byw gyda siom!
A stately pleasure-dome decree :
Where Alph, the sacred river, ran
Through caverns measureless to man
Down to a sunless sea.
So twice five miles of fertile ground
With walls and towers were girdled round :
And there were gardens bright with sinuous rills,
Where blossomed many an incense-bearing tree ;
And here were forests ancient as the hills,
Enfolding sunny spots of greenery.
Darllenwch weddill cerdd Coleridge.
Tagiau Technorati: Llanelwedd | Kubla Khan | Llywodraeth y Cynulliad | Nicholas Crickhowell.
 
