Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-13

Adeilad Gwynfor Evans?

'Adeilad Gwynfor Evans', Prifysgol Cymru, AberystwythBore 'ma fe wnes i godi'n gynnar er mwyn mynd i stiwdio'r BBC ar gampws y Brifysgol yn Aberystwyth. Mae'r campws yn y bore bach yn lle rhyfeddol gyda neb o gwmpas bron ond yr haul yn gwneud i bob man edrych ychydig bach yn wahanol i'r arfer. Ers imi fod yma ddiwethaf mae rhai pethau wedi newid. Y peth mwyaf i mi sylwi arno oedd y cynnydd yn adeiladu cartref i'r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol - y bore 'ma roedd 'na oleuadau i'w gweld o fewn i'r adeilad. Un peth arall sydd wedi newid ers dechrau codi'r adeilad hwn yw cyhoeddi cyfrol Rhys Evans i Rhag pob brad: cofiant Gwynfor Evans, sydd efallai yn gosod allan yr achos dros enwi'r adeilad newydd yn 'Adeilad Gwynfor Evans' yn well nag unrhyw beth arall. Fel gwleidydd roedd e lan 'na gyda'r mawrion yng Nghymru'r ugeinfed ganrif. Nid yw'r ffaith na chafodd droedio coridorau Versailles na Brwsel yn tystio i'w ddiffyg o gwbl fel gwleidydd, dim ond iddo ddewis llwybr gwahanol iawn i'r rhelyw o'n gwleidyddion eraill. Mae wedi atgyfnerthu fy marn i fod enw Gwynfor Evans yn un teilwng iawn ar gyfer yr adeilad newydd.

Tagiau Technorati: | | .