Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-19

¡Jichhapuniw jichhaxa! / Nawr yw'r amser!

Dwi'n gwybod fod 'na rai sy'n credu fod edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill yn medru ein gwneud yn ddi-hid o'r hyn sy'n digwydd yn ein gwlad ein hunain; neu hyd yn oed yn ystumio ein barn i'r fath raddau fel bod ein gwerthoedd yn cael tanseilio gan werthoedd estron. Os felly mae'n rhaid imi bledio'n euog i fod â diddordeb mawr yn yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill. I mi mae'r newyddion diweddaraf o Bolivia wedi bod yn hwb i mi, mae wedi codi fy nghalon i glywed fod yr ymgeisydd cyntaf erioed o dras Aymara neu unrhyw un o genhedloedd brodorol Bolivia wedi ei ethol yn llywydd. Mae Evo Morales yn enwog am fod yn arweinydd yn y rhyfel nwy pan gododd o y bobol yn erbyn bwriad yr arlywydd ar y pryd i werthu nwy naturiol Bolivia i'r Taleithiau Unedig am y nesaf peth i ddim. Bu'n llwyddiannus yn atal hynny rhag digwydd, ac erbyn hyn mae'n llywydd etholedig Bolivia ar ôl ymgyrchu yn gwbl agored o blaid hawliau'r Indiaid brodorol gan ddatgan ei fwriad i adfer Tawantinsuyo (ymerodraeth yr Incas) a egwyddorion sylfaenol Bolivar, beth bynnag yn union yw ystyr hynny.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wladwriaethau de America mae mwyafrif dinasyddion Bolivia yn dod o dras Indiaidd brodorol - Quechua ac Aymara yn bennaf, ond gyda lleiafrifoedd o dras Chiquitano a Guaraní - gyda dim ond rhyw 10% o dras Ewropeaidd. Roedd y balchder o fod wedi ennill o'r diwedd i'w weld ar wynebau'r rhai oedd yn dathlu buddugoliaeth Morales ar y newyddion. Ac roeddwn i yn medru rhanu yn eu llawenydd a deall eu balchder yn iawn - mae'n swnio fel gosodiad dros ben llestri, ond efallai taw dyma'r diwrnod cyntaf ers dyfodiad y Sbaenwyr yr oedd ganddynt rywbeth i'w ddathlu oedd yn cadarnhau eu hunaniaeth frodorol. Dwi'n rhyw feddwl eu bod nhw'n teimlo rhywbeth fel yr oeddwn i'n teimlo wedi refferendwm 1997 ar ôl 500 mlynedd o deimlo fel yr oeddwn i'n teimlo ar ôl refferendwm 1979. Rydyn ni'n cyfri o'r diwedd! Efallai y byd yfory yn ddiflas unwaith eto, ond heddiw, am un diwrnod, rydyn ni'n cyfri.

Tagiau Technorati: | | .