Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-19

"Hyd pan y’n gwahano angau..."

Wel, ar ôl yr holl stwr, mae'r lesbiaid cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol wedi cofrestru eu partneriaeth sifil gyda'r wladwriaeth, ac mae bywyd yn mynd yn ei flaen. Digwyddodd hynny ym Melffast o bob man ac roeddwn i'n sylwi fod 'na aelodau o Eglwys Bresbyteraidd Rydd Uladh yno i ddatgan yn eglur "Sodomy is sin", er dwi ddim yn rhy siŵr pan mor berthnasol oedd condemniad o'r fath yn achos Shannon Sickles a Grainne Close y cyntaf i gofrestru yno. Bydd cyplau o'r un rhyw yn cofrestru am y tro cyntaf yn yr Alban yfory, ac yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau. Dwi ddim yn adnabod neb sydd am wneud gyda'r cyntaf - fel dywedodd ffrind wrtha i, "Pan fydda i'n priodi dwi am briodas fach dawel ac nid ar dudalen blaen y Teifiseid!". Dwi'n deall yn iawn. Rhywun fuasai wrth ei fodd ar dudalennau blaen pob papur yw Elton John, a dim ond heddiw wnes i sylweddoli ei fod yntau yn mynd i gofrestru ei bartneriaeth gyda David Furnish yn yr union swyddfa gofrestru ag y 'dewisodd' Charles a Camilla ar gyfer cofrestru eu partneriaeth hwythau. Mae'r hen Elton yn gwybod sut i gael sylw pob gafael. Pob hwyl iddo yntau a'i bartner, a phob hwyl i Shannon a Grainne hefyd!

Tagiau Technorati: | | .