Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-18

Y pedwerydd Sul yn Adfent

Bron yn barod i ddechrauAr ôl heddiw y Nadolig sy nesaf. Ond gan fod y Nadolig ar ddydd Sul eleni bydd hi'n wythnos arall cyn i'r holl sŵn a swae ddod i ben! Yn Eglwys S. Mair roedd hi'n ddiwrnod y gwasaaeth carolau a drama'r ysgol Sul. Cafwyd gwasanaeth hyfryd yn y prynhawn a oedd yn addas i bawb o deulu'r eglwys - o'r hynaf i'r ieuengaf yn ein plith. Yn y gwasanaeth fe fydd y grŵp cerdd fel arfer yn canu un garol eu hunain, eleni fe ganon nhw un o garolau hyfryd Gilmor Griffiths. Roeddwn i wedi darllen yn y gwasanaeth bore. Roedd yr ail ddarlleniad yn dod o bennod olaf y llyfr olaf yn y Beibl, sef Datguddiad Ioan. Bydda i wastad yn cysylltu'r bennod hon â Waldo Williams oherwydd ynddi y ceir sôn am 'ddail y pren' sef ffynhonnell teitl ei gyfrol o farddoniaeth, Dail pren: "Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd." (Datguddiad 22:2) Mae angen y cenhedloedd am iachâd cymaint heddiw ag erioed.

Rhagor o luniau o wasanaeth carolau Eglwys S. Mair, Aberystwyth.

Tagiau Technorati: | | .