 Dwi wedi cael anrheg Nadolig wrth fy modd sef llun o siop Superspar ym Merlin. Pan fo dyn yn teimlo'n unig ac yn ddiwerth, pan fo'n teimlo nad oes neb yn ei garu - a dwi wedi bod yn teimlo felly'n ddiweddar ar brydiau - mae sylweddoli wedyn fod rhywun arall yn mynd o gwmpas strydoedd dinas estron yn tynnu lluniau o siopau bwyd Spar yn unswydd er ei fwyn ac er mwyn codi ei galon, yn gwneud iddo deimlo ei bod hi werth byw wedi'r cwbl.
Dwi wedi cael anrheg Nadolig wrth fy modd sef llun o siop Superspar ym Merlin. Pan fo dyn yn teimlo'n unig ac yn ddiwerth, pan fo'n teimlo nad oes neb yn ei garu - a dwi wedi bod yn teimlo felly'n ddiweddar ar brydiau - mae sylweddoli wedyn fod rhywun arall yn mynd o gwmpas strydoedd dinas estron yn tynnu lluniau o siopau bwyd Spar yn unswydd er ei fwyn ac er mwyn codi ei galon, yn gwneud iddo deimlo ei bod hi werth byw wedi'r cwbl. I mi mae pob Spar yn dweud stori, ac i fi dyma'r Spar yn un o ardaloedd 'amheus' Berlin lle bydd Angela Merkel yn galw ar ôl diwrnod caled yn y Bundestag. Dyw pethau ddim wedi bod yn mynd yn rhy dda ac felly mae'n chwilio am ychydig o fwyd cysur - selsig o ryw fath, bierschinken efallai, a charton o sudd oren newydd ei wasgu, breze twym, gyda choffi i fynd. Efallai fod ganddi ychydig lungopïo i'w wneud ar gyfer cyfarfod o'i chabinet drannoeth. Fe all hi wneud popeth yn y Superspar hwn.
I mi mae pob Spar yn dweud stori, ac i fi dyma'r Spar yn un o ardaloedd 'amheus' Berlin lle bydd Angela Merkel yn galw ar ôl diwrnod caled yn y Bundestag. Dyw pethau ddim wedi bod yn mynd yn rhy dda ac felly mae'n chwilio am ychydig o fwyd cysur - selsig o ryw fath, bierschinken efallai, a charton o sudd oren newydd ei wasgu, breze twym, gyda choffi i fynd. Efallai fod ganddi ychydig lungopïo i'w wneud ar gyfer cyfarfod o'i chabinet drannoeth. Fe all hi wneud popeth yn y Superspar hwn.Diolch GJ.
Rhagor o luniau o Siopau Spar.
Tagiau Technorati: Berlin | Spar | Hunan werth.
 
