Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-17

Dydd Sadwrn 'tawel' yn Aberystwyth

Yn y Caban, AberystwythA hithau ond wythnnos tan y Nadolig fe ddylswn i fod wedi bod yn rhedeg rownd y dre fel peth dwl yn gwario arian ar anrhegion. Ond dwi wedi gwneud fy holl siopa... bron. Dwi'n cymryd gwylia dydd Llun i orffen gwneud y cwbl ac i lapio'r hyn sy gen i i'w roi. Felly doeddwn i ddim yn rhan o wallgofrwydd y dydd. Felly cinio bach tawel yng nghwmni RO, rhyw grwydro yn hamddenol i un neu ddwy o siopau, ac yna galw yn yr Orendy am sgwrs a phaned gydag Elwyn; yna yn y Caban am sgwrs a phaned gyda RO, DML, IBJ, chwaer IBJ a dau o'i meibion, TLlJ, GC, &c. Rhwng cinio a choffi fe welais i ficer Llanbadarn a'r wraig a chael ychdydig o hanes plygain Penrhyn-coch. Yna ar y ffordd adref fe wnes i gwrdd â HD, gwraig ficer Tregaron, a chael peth o'u hanes hwythau fel teulu. Yn ôl i'r fflat wedyn am swper ac i wneud y peth a'r peth arall sydd angen ei wneud cyn yfory. Dwi'n darllen yn y gwasanaeth boreol felly rhaid oedd mynd dros y ddau ddarn er mwyn sicrhau nad oeddwn i'n llithro dros unrhyw eiriau.

Tagiau Technorati: | .