Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-17

Beth mae DML yn ei ddarllen?

Fel arfer ddydd Sul byddaf yn clirio'r bwrdd coffi o'r holl lyfrau, CDau, a.y.y.b. sydd wedi ymgasglu yno dros yr wythnos flaenorol. Mae'r hyn a geir ar y ford yn rhoi syniad reit dda inni o'r hyn mae llyfrbryf mwyaf newynog Cymru, sef DML, yn ei ddarllen ac yn ei wrando ar hyn o bryd. Felly, yn y flwyddyn newydd byddaf yn ceisio paratoi rhestr wythnosol o'r hyn sydd ar y ford. Fel tamaid i aros pryd fel petai, dyma beth sydd ar y ford ar hyn o bryd. Mae'r pentwr yn adlewyrchu'r ffaith fod y Nadolig yn agos.

Tagiau Technorati: | | .