Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-17

Ysmotwyr trenau dros ryddid a chyfiawnder!

Dwi'n gwybod fod pawb sy'n trendi ac hip y dyddiau yma yn darllen y Spectator ond dwi'n ofni fy mod i'n ormod o hen chwithydd i brynu unrhyw gylchgrawn sy'n cynnwys ysgrifeniadau Mark Steyn; ond efallai fe wnaf ei ddarllen ar y rhyngrwyd o bryd i'w gilydd! Ond i'r cylchgrawn arall, sef y New statemsan, y byddaf yn troi yn gyson. Ac yn y rhifyn Nadolig mae 'na stori ddifyr yn dangos beth oedd cyfraniad plane-spotters i ddatgelu y modd y mae'r CIA yn cipio pobl a amheuir o droseddau fel terfysgaeth o un wladwriaeth i'r llall heb fynd drwy'r ffurfiau cyfreithiol, a'r modd y maent yn cael eu symud o'r un man i'r llall i'w 'holi' yn galed er mwyn iddynt rannu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt. Mae'r stori America's Gulag i'w darllen ar flog y newyddiadurwr Stephen Grey lle mae'n esbonio sut roedd ysmotwyr awyrennau yn medru dilyn taith awyrennau'r CIA o gwmpas Ewrop a thu hwnt. Yn raddol bach fe lwyddodd i roi'r jig-so at ei gilydd oedd yn dangos y rhwydweithiau roedd yr Americanwyr yn eu defnyddio i symud pobl o un wladwriaeth i'r llall y tu-fas i'r gyfraith. Os yw ysmotwyr awyrennau yn medru gwneud y fath gyfraniad dwi'n addo o hyn allan i beidio รข dilorni ysmotwyr trenau bellach, oherwydd rhyw ddydd mae'n bosib y byddan nhw'n medru bod yn gyfrwng datgelu cyfrinach yr un mor guddiedig.

Tagiau Technorati: | | .