Wedi'r gwasanaeth troi am adref a chwrdd ag un neu ddau ar y ffordd. Dwi'n mynd i gael cinio tua 2.00pm a chymryd fy amser drosto; a gwneud yn siŵr hefyd fod popeth yn cael ei gofnodi. Dwi'n mynd nawr i gael fy bucks fizz (heb y grenadine dwi'n ofni a chan ddefnyddio cava o Catalunya). Ar ôl cinio dwi'n mynd i agor fy anrhegion ac efallai gorffwys rhyw ychydig. Fe gawn weld.
Dyma'r darlleniad yr efengyl a gawsom yn ein gwasanaeth Cymun Bendigaid yn yr eglwys y bore 'ma.
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono. Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (Ioan 1.1-14)
Tagiau Technorati: Nadolig.