Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-25

Dydd Nadolig 2005 (3)

'Bucks fizz' yn barod i'w yfedWel, dwi wedi cael cinio o'r diwedd. Ar ddiwedd y dydd dwi'n ofni fy mod wedi jibo gwneud pasta ffres a defnyddio pasta sych. Ond fe ges i wledd. Fel y dywedais 'Bucks fizz' i ddechrau; yna eog wedi'i fygu gyda chorgimwch. Y prif gwrs oedd y pasta a ragu. Yna fel pwdin, pwdin Nadolig a hufen. Dwi'n ofni roedd y pwdin yn un a brynwyd; ond dyna ni dwi'n ofni nad oeddwn yn medru gwneud popeth! Y cyfan sydd ar ôl nawr i wneud y dydd Nadolig yn un traddodiadol yw agor yr anrhegion. Dwi wedi bod yn hunan-ddisgybledig iawn gyda fy anrhegion gan fy mod heb agor un eto. Yr hyn dwi'n bwriadu ei wneud yw eistedd i lawr i wylio'r teledu - Pobol y Cwm, Nadolig Aled, a Fy mab yng Nghymru - ac agor fy anrhegion yr un pryd. Gwledd o fath arall!

Eog, corgimwch, bara a mayonnaiseRagu gyda phasta tagliatellePwdin Nadolig a hufen

Rhagor o luniau o fy nghinio Nadolig 2005.

Tagiau Technorati: | .