 Dwi ddim yn gwybod pam dwi'n addo gwneud pethau weithiau achos mae eu gwneud nhw yn medru bod yn drafferth! Er enghraifft, y bore 'ma roeddwn i wedi addo, neu'n hytrach wedi fy nghytundebu i gyfrannu 'Dweud fy nweud' i'r Post cyntaf ar Radio Cymru. Roedd hynny'n meddwl codi am 5.30am er mwyn cyrraedd stiwdios y BBC ar gampws y Brifysgol erbyn rhyw 7.00am. Dwi'n eithaf mwynhau'r syniad o wneud y peth, ond pan mae'n dod i ysgrifennu'r pwt go iawn, mynd i'r stiwdio go iawn, mae'n medru weithiau ymddangos fel gwaith caled iawn. Dwi'n credu iddi fynd yn iawn ac roeddwn i yn y gwaith erbyn 7.35am o'r herwydd!
Dwi ddim yn gwybod pam dwi'n addo gwneud pethau weithiau achos mae eu gwneud nhw yn medru bod yn drafferth! Er enghraifft, y bore 'ma roeddwn i wedi addo, neu'n hytrach wedi fy nghytundebu i gyfrannu 'Dweud fy nweud' i'r Post cyntaf ar Radio Cymru. Roedd hynny'n meddwl codi am 5.30am er mwyn cyrraedd stiwdios y BBC ar gampws y Brifysgol erbyn rhyw 7.00am. Dwi'n eithaf mwynhau'r syniad o wneud y peth, ond pan mae'n dod i ysgrifennu'r pwt go iawn, mynd i'r stiwdio go iawn, mae'n medru weithiau ymddangos fel gwaith caled iawn. Dwi'n credu iddi fynd yn iawn ac roeddwn i yn y gwaith erbyn 7.35am o'r herwydd!Tagiau Technorati: BBC Cymru | Dweud fy nweud.
 
