Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-12-19

Mae Owain Selway wedi marw

Dim ond neithwr y clywais i'r newyddion fod Owain Selway wedi marw. Bu farw fore Gwener mewn tân yn ei gartref yn Eglwysbach, Dyffryn Conwy. I'r rhan fwyaf a aned wedi 1975 dyw ei enw yn meddwl dim, ond roedd e'n un hanner i'r deuawd brawd-a-chwaer Alwen ac Owain Selway a fu'n canu ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au. Pan glywais i am ei farwolaeth fe wnaeth fy nharo ar unwaith fy mod i ac yntau yr oed. Dwi'n cofio amdano pan roeddwn i'n fyfyriwr yn Aberystwyth ac yntau ym Mangor ar yr un pryd. Buaswn i'n dod ar ei draws mewn digwyddiadau fel eisteddfodau a dawnsfeydd rhyng-golegol. Roedd hi dipyn o sioc dod ar draws rhywun yr oeddech chi wedi bod yn gwrando ar ei recordiau. Dwi'n credu taw mam wnaeth brynu'r record Alwen ac Owain Selway (1969), ond fe dreuliais i oriau yn gwrando arni, yn arbennig felly y gân 'Ffalabalam' - rhyfeddwn at y ffordd yr oedd y ddau yn medru canu geiriau mor gymhleth mor rhugl, roedd eu hancenion hefyd yn rhywbeth i'w rhyfeddu. Mae Cymru yn rhy fechan inni sôn am bobl fel sêr ac fel eiconau, ond dyna oedd Alwen ac Owain Selway mewn gwirionedd ac fe fyddai unrhyw wlad arall wedi cydnabod hynny'n anrhydeddus. Pa bryd fyddwn ni'n ddigon balch i gydnabod ein mawrion ni ein hunain? Rydym mor barod i fesur llwyddiant yn ôl llwyddiant yn Lloegr, yn Llundain. Onid mesur llwyddiant Owain a'i chwaer Alwen yw fy mod i a chenedlaethau ar fy ôl i yn medru canu'r gân 'Fflalbalam' dros 35 mlynedd wedi i'r record gael ei rhyddhau gyntaf.

Dyro iddo, O Arglwydd, orffwys tragwyddol
a llewyrched. goleuni gwastadol arno. Amen


Adroddiad Hywel Trewyn yn y Daily post sy'n crynhoi ychydig o hanes a chyfraniad Owain Selway yn dda.

Tagiau Technorati: | | .