Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-25

Yn ôl i Ddolwyn

Last days of Dolwyn (1949)Roeddwn i'n siarad gyda MAO yn y gwaith ddoe ac fe wnaeth hi dynnu fy sylw at ffaith ddidorol iawn ynglŷn â'r ffilm Last days of Dolwyn (1949). Wedi i Merri lwyddo i atal bwriadau Lord Lancashire (ym mherson Rob Davies) rhag boddi'r pentref maen nhw'n cael un parti mawr. Fel rhan o'r parti mae 'na glocsiwr yn ymddangos yn dawnsio ar lwyfan y tu fas i'r tafarn - Hywel Wood yw'r clocsiwr hwnnw. Roedd Hywel Wood yn aelod o un o deuluoedd Rom enwocaf Cymru, yr enwocaf o'u plith oedd Abraham Wood, ac feistr ar stepio. Gan ei fod yn byw yn y Parc roedd hi'n gyfleus iawn iddo ddod i'r ffilmio yn Rhyd-y-main ac fe ddefnyddiwyd nifer fawr o bobol o'r ardal yn ychwanegolion yn y ffilmio.

Hywel Wood yng Ngŵyl Werin Genedlaethol yr Urdd yng Nghorwen, 1958.
Ffotograff gan y ffoto-newyddiadurwr enwog Geoff Charles.

O gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol.

Tagiau Technorati: | | .