Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-25

A oedd y Daily mail yn iawn?

Cwrw Duvel o Wlad BelgCwestiwn rhyfedd dwi'n gwybod a chwestiwn twp hefyd mae'n siŵr, ond roedd y papur newydd sy'n disgrifio ei hun fel "news, sport, showbiz, health and more" yn ei elfen ddoe o gofio fod deddfau trwyddedu newydd Tony Blair yn dod i rym. Ddoe oedd y diwrnod cyntaf y gallwn i fod wedi mynd i dafarn Yr Hen Orsaf yn Aberystwyth a chael peint gyda fy mrecwast am 9.00am yn gyfreithiol. Mae'r deddfau trwyddedu newydd hyn i fod i drawsnewid Cymru, a Phrydain oll, i fod yn debyg i'r cyfandir o ran agwedd tuag at alcohol. Dwi'n disgwyl i hynny ddigwydd o fewn tri mis!

Roedd y Dail mail wedi proffwydo'r cyfan ar ei dudalen flaen: "Brawls, piles of vomit, smashed glass and comatose young people slumping on the street" ynghyd â ffotograffau defnyddiol i ddangos sut fyddai hynny'n edrych rhag ofn nad oedd ganddoch chi ddychymyg digon bywiog. Yn rhyfeddol wrth gerdded yn ôl o Spar 24awr (sy'n medru gwerthu alcohol o 8.00am tan 1.30pm) am tua 7.30pm neithiwr fe ddois i ar draws un gŵr ifanc meddw yn dod allan o dafarn Downies Vaults - gyda chyfaill yn ei gynorthwyo ar tafarnwr yn eu harolygu. Roedd hi'n amlwg nad oedd angen newid dim ar yr oriau yfed ar ei gyfer yntau!

Felly y cwestiwn athronyddol mawr yw a fydd y Daily mail yn cael eu profi'n iawn ai peidio wrth broffwydo gwae a thrallod? Dwi'n gobeithio'n fawr iawn na fyddan nhw gan y byddai hynny jyst yn rong o ran cyfiawnder cyffredinol; ond dwi'n ofni efallai eu bod yn agosach ati y tro yma o ran effeithiau hyn i gyd ar ein strydoedd. A dyna fi unwaith eto wedi profi fod henaint yn dod yn nes bob munud - ond dwi eisiau medru cerdded yn ddiogel ar hyd strydoedd y dref ymhell o fygythiadau meddwon a darllenwyr y Daily mail. Cawn weld a fydd hynny'n bosib yn y man.

Tagiau Technorati: | | .