Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-23

Un ddarlith fawr...

R. Geraint Gruffydd yn darlithio ym Mhenrhyn-cochDwi'n dechrau teimlo bod fy mywyd yn troi yn un ddarlith fawr ar ôl noson arall yn gwrando ar rywun yn darlithio. Wrth gwrs, doedd y darlithydd ddim yn unrhyw un, ond R. Geraint Gruffydd, cyn-Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol a chyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Yn ystod ei gyfnod fel Athro fe fues i'n astudio Cymraeg yn Aberystwyth a dwi'n cofio'n arbennig ei ddarlithoedd ar ryddiaith y oesoedd canol. Heno roedd yn traddodi darlith ar Dafydd ap Gwilym yng Ngheredigion. A pha le gwell i draddodi darlith ar ein bardd mwyaf na nepell (neu, nid nepell) o'i fan geni ym Mrogynin, Penrhyn-coch.

Nododd ar ddechrau'i ddarlith fod gwreiddiau Dafydd ap Gwilym yng nghwmwd Cemais, gogledd-ddwyrain Sir Benfro heddiw, ond bod ei deulu wedi symud dwy neu dair yn gynt i Geredigion. Sylwodd ar yr enwau llefydd yng Ngheredigion, ac yn arbennig yn ardal Penrhyn-coch, sy'n ymddangos yng ngwaith Dafydd a Gwilym. Ar ôl crynhoi hanes ei fywyd yn gryno fe aeth ati i edrych ar y cerddi yr ysgrifennodd i foli noddwyr o Geredigion - yn eu plith Ieuan Llwyd o Enau'r Glyn, a Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron. [Diolch i AVH am y llun o gofeb Dafydd ap Gwilyn ym Mrogynin]

John Thomas 1838-1905, Parcrhydderch, Llangeitho. ca. 1885.
O gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhaliwyd y cyfarfod yng nghapel Horeb, Penrhyn-coch ac roedd y lle'n llawn ar gyfer y ddarlith. Cyflwynwyd y noson gan HF, cadeirydd Cymdeithas y Penrhyn, cyn iddo yntau estyn yr awenau i Brynley F. Roberts o Gymdeithas Lyfrau Ceredigion i gyflwyno R. Geraint Gruffydd ei hun. Roedd Brynley F. Roberts yn hael iawn yn ei ganmoliaeth wrth gyflwyno'r siaradwr, ac yn fwy hael byth wrth ddiolch iddo ar ddiwedd y noson. Wedi'r ddarlith cafwyd te a lluniaeth ysgafn a chyfle i drafod gyda hwn a'r llall. Bues i'n siarad gyda rhai o staff y Cyngor Llyfrau cyn mynd yn ôl i'r dref.

Roedd y ddarlith wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a Chymdeithas y Penrhyn. Bues i'n ddigon ffodus i gael lifft mas i Benrhyn-coch gan neb llai nag ysgrifennydd Cymdeithas y Penrhyn, sef RO. Diolch yn fawr iawn iddo. Fe gefais i lifft yn ôl i'r dref gan Elwyn. Diolch iddo yntau hefyd.

Rhagor o luniau o'r ddarlith ym Mhenrhyn-coch.

Tagiau Technorati: | | .