Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-29

Y Sul cynaf yn Adfent

Canhwyllau cenedlgarolA hithau'n Sul cyntaf yn Adfent ddydd Sul diwethaf dwi'n dechrau tyneru yn fy agwedd tuag at yr holl siopau a'r sefydliadau hynny sydd wedi hen godi eu coed Nadolig a gosod yr addurniadau yn eu lle. Buaswn i wrth fy modd petai'r hen draddodiad o aros tan y Nadolig ei hunan a dathlu am ddeuddeg diwrnod wedyn yn dal mewn lle, ond mae'n rhaid imi wynebu realiti cyfalafiaeth ryngwladol sydd am i bawb brynu cyn y Nadolig, ac wedi'r Nadolig hefyd os yw hynny'n bosib.

Wedi gwasanaeth Cymun Bendigaid am 10 o'r gloch y bore roeddwn wedi addo mynd i stiwdio'r BBC er mwyn recordio pwt ar gyfer rhaglen deyrnged i Alun Creunant Davies i'w darlledu ddydd Sul sy'n dod. Felly yn hytrach na dychwelyd yn ôl i'r dref fe benderfynais gymryd cinio yng Nghanolfan y Celfyddydau. Roedd y cinio yn iawn, powlenaid o gawl llysiau llenwol a brechdan a choffi. Wedyn y cyfle i grwydro o gwmpas y "ffair grefftau" sy'n rhan annatod erbyn hyn o'r Nadolig traddodiadol yn Aberystwyth. Fe alla' i addo un peth ichi, os ych chi eich hun yn fetistydd canhwyllau neu'n ffrind i rywun sydd yn ffetistydd canhwyllau yna'r ffair grefffau hon yw'r lle perffaith ichi brynu anrhegion Nadolig.

Mae'r Nadolig ar ei ffordd.

Rhagor o luniau o'r ffair grefftau.

Tagiau Technorati: | | .