Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-28

Buddugoliaeth a ffarwél

Shane Williams yn siarad ar ôl buddugoliaeth Cymru dros Awstralia yn y rygbiAr ôl deunaw mlynedd yn yr anialwch mae buddugoliaeth Cymru dros Awstralia yn y rygbi yn haeddu sylw hyd yn oed gennyf fi. Roedd gweld ymateb y tîm i'w buddugoliaeth yn ddigon i godi'r galon. Roeddwn i'n gwylio gyda fy nghymdogion, IBJ, GC a'r teulu. Ond roeddwn i yno i wylio oherwydd fy mod i wedi cael gwahoddiad i rannu mewn pryd Indian têc-awê i nodi diwedd eu cyfnod fel cymdogion. Roedden nhw'n symud 'nôl i'w cartref eu hunain; ond ddim heb ddathliad bach.

Biryani cyw iar MalayaRoedd chwech ohonom yn eistedd i lawr rownd y ford i gael swper dathlu ac roedd pawb wedi dewis ei bryd ei hun. Dewisais i Biryani cyw iar Malaya gyda naan peshwaraidd. Roedd pawb arall yn cymysgu eu bwyd, ond dwi'n ofni fy mod i wedi sefyll yn reit gadarn wrth wrth fy miryani. Roedd IBJ, GC, MLJ a TLlJ wedi bod yn gymdogion imi ers yn agos i naw mis; felly fe fydd hi'n od iawn bod hebddyn nhw yn gwmni. Fe fydd hi'n wahanol iawn iddyn nhw hefyd mae'n siwr. Rhaid dweud un peth, roedd yn ddigwyddiad llawer rhatach ond yn dipyn yn fwy egsgliwsif na pharti ffarwél Michael Howard fel arweinydd y Blaid Dorïaidd - roedd 'na 400 yn y parti hwnnw, ac roedd pob un ohonyn nhw'n talu £300 y pen am gael bod yno.

Rhagor o luniau o'r spwer ffarwél a'r fuddugoliaeth fawr.

Tagiau Technorati: | | .