Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-30

Blair = Thatcher

Dwi wedi colli f'amynedd yn llwyr gyda Blair bellach. Dwi'n gwybod y bydd nifer, os nad y rhan fwyaf, yn pitïo neu'n rhyfeddu at fy naïfrwydd yn aros cyhyd cyn gwneud datganiad o'r fath; ond mae'r hyn mae e wedi bod yn ei wneud a'i ddweud dros y diwrnodau a'r wythnosau diwethaf wedi bod yn ormod imi. Mae ei benderfyniad a'i fwriad i ddilyn llwybrau sy'n gwbl groes i'r hyn dwi'n ei weld fel y peth iawn yn debyg iawn i'r hyn y medrai Margaret Thatcher ei wneud pan roedd hithau yn ei hanterth. Roedd sôn wedi bod cyn hyn am y newid meddwl ynlgŷn ag ynni niwclear. Roeddwn i'n gwybod am ei fwriad i uwchraddio Trident. Yn Lloegr mae e am breifateiddio yr holl ysgolion uwchradd yn gywir fel geisiodd y Torïaid ei wneud rhyw ddeng mlynedd yn ôl.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i aeth. Fe dwyllodd dros y rhyfel yn Irác a llwyddo i beidio â thalu'r pris gwleidyddol y dylai fod wedi'i dalu am wneud hynny. Ond nawr mae e am atal y rhai sydd am ddweud y gwir am y trafodaethau rhyngddo ef a George W. Bush ynglŷn â bomio stiwdios al-Jazeera rhag cyhoeddi dim am y stori. Fel mae'n digwydd mae dau was sifil yn cael eu herlyn o dan y Deddf Cyfrinachau Swyddogol yn barod ar gyhuddiadau yn ymwneud â gollwng y stori. Y cwestiwn mawr yw a oedd George W. Bush yn bwriadu bomio pencadlys al-Jazeera yn Qatar ai peidio. Dyna'r cwestiwn mae gweithwyr al-Jazeeera yn ei holi ar eu gwefan newydd Don't bomb us.

Am ba hyd fydd hyn yn medru parhau?

Tagiau Technorati: | | | .