Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-22

Mynd yn hŷn, mynd yn fwy cul

A wnaeth rywun weld Darn o dir heno? Cyfres yw hon wedi'i gosod yn Sir Benfro, ac yn fy marn i wedi'i bwriadu'n bennaf ar gyfer cynulledifa ifanc. Nawr dwi ddim yn arbennig o gul, ond fe gefais ychydig o sioc i weld beth oedd cynnwys y rhaglen. Yr hyn oedd yn fy synnu i oedd y cynnwys mewn rhaglen oedd yn cychwyn am 6.30pm ar S4C Digidol - trais graffigol, rhyw, cynddaredd diddiwedd, a rhegfeydd o bob math (gan osgoi'r geiriau ff-- a c---, diolch byth!) Mae bywyd wedi newid yn Sir Benfro mae'n rhaid, dim ond y rhegfeydd dwi'n eu cofio o fy ieuenctid i yno. Yr unig beth i godi calon dyn oedd awgrym o gusan bach hoyw rhwng crwt lleol a mewnfudwr o Awstralia. Dyna gadarnhau fy nghanfyddiad fod pethau wedi newid!

Tagiau Technorati: | .