Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-14

Tai Kensington a Chelsea i bobol Kensington a Chelsea

Mae'r creisis tai yn gwaethygu'n ddirfawr os yw pobl Kensington a Chelsea yn poeni am y peth. Ond dyna'n union sy'n digwydd yn ôl erthygl yn y Guardian heddiw. Mae cynghorwyr Bwrdeistref Brenhinol Kensington a Chelsea yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i bobl lleol yn y farchnad dai drwy gadw peth o'r stoc dai newydd yn arbennig i rai sydd â chysylltiad gyda'r ardal fel nad yw estroniaid cyfoethog yn prynu pob eiddo sy'n dod ar y farchnad. Pris tŷ ar gyfartaledd yn Kensington a Chelsea yw bron i £830,000. Rheolir y cyngor gan y blaid Geidwadol.

Tagiau Technorati: .