Dwi'n gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl fy mod yn gythraul calon galed a didrugaredd pan ddywedaf fod clywed fod Conrad Black yn mynd i fynd o flaen ei well (y rhan fwyaf o'r ddynoliaeth fuaswn i'n tybio!) yn gwneud imi deimlo'n dda. Dyma ddyn oedd yn berchen y Daily telegraph ac yn defnyddio'r papur hwnnw i wrthio agenda asgell dde radicalaidd yn erbyn pobl gyffredin. A dyma'r dyn hefyd a gafodd ei wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwydd gan neb llai na Tony Blair ei hun. Bu'n rhaid iddo ildio dinasyddiaeth Canada er mwyn derbyn y fraint honno. Ond wedyn fe ddechreuodd y gwir ddod i'r amlwg wrth i hanesion am ei gamddefnydd o arian ei gwmnïau gylchredeg. Dechreuodd yr awdurdodau yn y Taleithiau Unedig ymchwilio ei achos, yna fe wnaeth awdurdodau Canada ddilyn. Wedyn fe gafodd Black, gyrrwr a chynorthwyydd eu dal ar gamera cylch cyfyng yn mynd â deuddeg o focsys o ddogfennau o swyddfeydd cwmni Hollinger yn Ontario ar ôl i lys gyhoeddi gorchymyn yn ei atal rhag symud unrhyw ddogfennau oddi yno. Gobeithio y caiff yn gywir beth mae'n ei haeddu.
Tagiau Technorati: Conrad Black | Tony Blair | Cyfalafiaeth | Tŷ'r Arglwyddi.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.