Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-14

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 2005-11-12

Amgueddfa Genedlaethol y GlannauDdydd Sadwrn diwethaf cefais y profiad amheuthun o ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Nid yn aml y ceir y cyfle i fynd i sefydliad newydd fel hyn - mae amgueddfeydd, yn aml iawn, y hen fel eu harddangosion. Mae'r amgueddfa newydd mewn adeilad trawiadol ar y cei ger Marina Abertawe. Gorchuddiwyd muriau allanol yr adeilad mewn llechen ac mae'r lliwiau amrywiol yn tynnu'r sylw yn syth. Fe ddaethon ni i mewn o'r 'cefn' fel petai ac mae'n rhaid imi gyfaddef nad oedd yr arwyddion tywys yn rhyw gyfeillgar iawn. Ond ddod o hyd i'r ffordd i mewn roedd yr ymweliad yn un difyr iawn.

Diwydiant a blaengaredd

Sinclair C5, Amgueddfa Genedlaethol y GlannauMae'r amgueddfa ar ddau lawr ac wedi'i rhannu yn bymtheg ardal neu oriel thematig yn adrodd 'stori blaengaredd a diwydiant Cymru nawr a dros y 300 mlynedd diwethaf'. Mae'r pum 'oriel 'ar y llawr gwaelod yn drawiadol iawn am eu bod yn gartref i beiriannau go iawn, gan gynnwys tryc glo enfawr o Abertawe, car cynnar, awyren gynnar, ac yn gopsi ar y cwbwl Sinclair C5 a oedd yn cael eu gwneud ym Merthyr Tudful. Dim ond un cof go iawn sy gen i o weld un o'r rhain ar y ffordd fawr. Roedd hynny union 20 mlynedd yn ôl yn Hwlffordd, Sir Benfro. Roeddwn i'n mynd i mewn i'r gwaith yn Llyfrgelloedd Dyfed pan o ganol y lorris fe ddaeth Sinclair C5 i'r golwg. Dwi'n deall yn iawn beth sy'n cael ei ddweud yn y disgrifiad yn yr Amgueddfa, 'Ni ddaeth y C5 yn boblogaidd am nad oedd gyrrwyr yn teimlo'n ddiogel mor isel i lawr gyda'r holl draffig o'u cwmpas'!

Mae'r amgueddfa yn llawn o'r dulliau diweddaraf o gyflwyno ac yn gwbl ddwyieithog. Rhaid imi gyfaddef taw un o'r arddangosion a ddysgodd fwyaf i mi oedd cyflwyniad ar sut roedd y gyfnewidfa lo yng Nghaerdydd yn gweithio a'r effaith yr oedd y trafod yn yn ei gael ar fywydau miloedd o bobol gyffredin yn y diwydiant. Yn yr oriel 'Diwrnod o waith' roedd y cyflwyniad ar sut mae bywyd gwaith menywod wedi newid ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yma roedd un peth yn drawiadol iawn, sef sŵn y peiriannau yn gwneud i'r adeilad grynu gan geisio rhoi 'profiad' o weithio mewn diwydiant trwm i ymwelwyr. Syniad da, ond roedd lefel uchel y sŵn yn ei gwneud hi'n anodd i glywed y cyflwyniadau llafar yn aml iawn.

Cinio mewn cantîn

Caffi, Amgueddfa Genedlaethol y GlannauDefnyddir pob gimic posib i wneud yr ymweliad yn un cofiadwy. Felly roedd y caffi modern wedi'i wneud i ymddangos fel cantîn mewn ffatri gyda phawb yn eistedd ar feinciau. Roedd y bwyd yn iawn - cefais i gawl llysiau, rôl a menyn a photelaid o ddŵr pefriog am £5 ar ei ben. Pwy oedd yn cael cinio yr un pryd â ni, ond Eluned Morgan ASE. Yn ddiweddarach fe ddaeth ei phresenoldeb hi'n fwy arwyddocaol, ond ar y pryd doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny. Wedyn fe ges i cwpanaid o goffi a chwci siocled. Roedd y cwci yn flasus, ond siomedig oedd y coffi. Ond mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ac mae hynny'n siŵr o wella.

Rhagor o luniau o fwyty Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gwerthu Cymru

Y siop, Amgueddfa Genedlaethol y GlannauMae siopau mewn amgueddfeydd yn fy ffasineiddio. Roedd y siop yn yr Amgueddfa yn glasur o geisio 'gwerthu Cymru'. Mae'r lle yn cael ei lenwi yn bennaf ag anrhegion y gall y plant sy'n ymweld â'r amgueddfa eu prynu i fynd adre gyda nhw. Maen nhw hefyd yn ceisio dod o hyd i bethau sy'n nodweddu Cymru. Felly fe geir cerfluniau o ddreigiau wedi'u cerfio o genpyn o lo, baneri Cymru, bisgedi a siwtni a jam o Gymru, a phob math o ddanteithion eraill. Yr hyn a dynnodd fy sylw i oedd tomen o dedi bêrs gyda rycsachau glas ar eu cefnau yn hysbysebu yr Amgueddfa ac yn disgwyl cael eu prynu. Roedd 'na CDs yno, corau meibion yn bennaf, ac roedd y cyfan yn rhoi rhyw argraff arallfydol o Gymru fel gwlad lle'r oedd amser wedi aros yn llonydd tua chanol y 1950au.

Rhagor o luniau o'r siop yn yr Amgueddfa.

Amgueddfa Genedlaethol 'New Labour'/'Welsh Labour'?

Os yw hi'n bosib darllen y siop a gweld pa ddelwedd o Gymru mae honno yn ei chyfleu, yna mae'n bendant yn bosib darllen beth mae amgueddfa yn ceisio'i ddweud. Bydd pawb ddim yn gweld yr un pethau, bydd pawb ddim yn gweld yr un arwyddocad yn yr un pethau. Dwi'n dod at yr amgueddfa hon fel cenedlaetholwr gan wybod taw o'r diwydiannu y tarddodd y mudiad llafur a'r Blaid Lafur yng Ngymru. Doedd dim disgwyl i'r Amgueddfa beidio â chyfeirio at hynny, ond dwi'n teimlo braidd fod y cyfan yn pwyntio ar yr holl bethau da mae'r blaid honno wedi dod i Gymru. Yn oriel y Cyflawnwyr yn naturiol ddigon dethlir Aneurin Bevan, ond yno hefyd y ceir dathliad o Elizabeth Andrews trefnydd benwyaidd cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru. Wrth edrych yn oriel y sefydliadau ceir adran ar y mudiad pleidlais i ferched, ac fel esiampl o sut mae safle menwyod wedi newid ceir portread o Eluned Morgan ASE! Yn oriel y Cymunedau dro ar ôl tro fe ddaw agenda cynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad i'r amlwg. Nawr, dwi ddim yn dweud fod hyn yn beth drwg o'i hanfod, ond mae'n ddiddorol sylwi ar hyn. Gyda llaw os ddeallais i'r cyflwyniadau aml-gyfrwng uchel-dechnoleg yn iawn yna unig gyfraniad cenedlaetholdeb i fywyd Cymru oedd bod yn gyfrifol am losgi tai haf! (Dwi'n siŵr fy mod i wedi camddeall hyn ac felly dwi wedi ysgrifennu at yr amgueddfa i ofyn am gopi o'r sgript i wirio ydw i wedi cofio'n iawn yr hyn dwi'n credu imi ei weld ai peidio.)

Amgueddfa gorfforaethol

Yn debyg i Lafur Newydd mae'r Amgueddfa hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio denu nawdd oddi wrth y byd corfforaethol. Ceir rhestr hir o gwmnïau sy wedi cefnogi'r sefydliad. Mae enw'r cwmni dur Corus i'w weld yn amlwg o gwmpas yr adeilad. Ac yn adran 'Diwrnod o waith' caiff hysbyseb i Corus ei ddarlledu'n gyson wrth inni edrych ar fywyd yn ffatri Corus ym Mhort Talbot heddiw. Dim sôn am olwg feirniadol neu lled-gritigol. A yw'r nawdd corfforaethol wedi cael yr effaith ddisgwyliedig?

Pethau ar goll

Fel selot iaith mae'n rhaid imi gyfaddef imi gael fy siomi nad oedd unrhyw ymgais i esbonio perthynas y Gymraeg a'r Saesneg a diwydiannu yng Ngymru. Mae'n rhaid y bydd rhai o ymwelwyr â'r Amgueddfa wedi sylweddol fod diwydiannu wedi golygu Seisnigo mewn rhai ardaloedd tra bo ardaloedd eraill a welodd ddiwydiannu wedi cadw'r iaith Gymraeg. Pam hynny? A oedd y gweithwyr a'r rheolwyr a'r perchnogion yn rhannu'r un iaith? A oedd/yw diwylliant diwyddiannol Cymraeg yn wahanol i ddiwylliant diwydiannol Saesneg Cymru?

Hefyd fe bwysleisir yn aml y gwahaniaethau rhwng gwaith caled corfforol yr hen amser a'r gwaith cymharol 'hawdd' heddiw. Ond ni sylwais i ar unrhyw gyfeiriadau at ganolfannau galw a'u harferion digon amheus hwythau hyd yn oed heddiw. Ond rhaid imi gyfaddef na chefais gyfle i stico fy nhrwyn ym mhob twll a chornel ac mae'n bosib fy mod heb sylwi ar bopeth.

Diffyg dealltwriaeth o anghydffurfiaeth?

Fe welais un peth chwithig iawn wrthj gwrdded o gwmpas yr amgueddfa. Yn oriel y Cyflawnwyr neilltuwyd cornel bach i Christmas Evans (1766-1838) a'r hanes amdano'n cael ei ofyn i adael eglwysi Ynys Môn er gwaethaf ei lwyddiant. Caiff y stori ei hadrodd fel hyn: 'Plwyfolion lleol yn disgwyddo pregethwr penigamp', neu yn Saesneg, 'Local parishes sack star preacher'. Dwi'n gweld yr ymgais i greu penawdau tabloid, ond eto i gyd mae'r syniad o gyfeirio at eglwysi cynulliedig y Bedyddwyr fel 'plwyfi' yn gwthio'r jôc i'r eitha. Mae'n ddigon i wneud ichi feddwl fod dealltwriaeth pobol o anghydffurfiaeth bron â diflannu'n llwyr.

Dwi'n gwybod fy mod yn swnio fel petawn yn cwyno am bopeth, ond fe wnes i fwynhau a dwi'n edrych ymlaen i'r cyfle nesaf i ymweld â'r Amgueddfa.

Rhagor o luniau o fy ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Tagiau Technorati: | | .