Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-06

Prawf dinasyddiaeth

A fuasech chi'n llwyddo mewn prawf ar gyfer bod yn ddinesydd Prydeinig? Y prawf yw medru ateb cwestiynau sylfaenol am fywyd yn y Deyrnas Gyfunol yn seiliedig ar y llyfr Life in the United Kingdom: a journey to citizenship. Rai misoedd yn ôl fe osododd y BBC brawf ar eu gwefan, ac mae 'na beth gwybodaeth ar wefan British Citizenship hefyd. Tybed os ych chi'n methu'r prawf y bydd hi'n rhaid ichi adrodd hynny i'r awdurdodau a cholli eich dinasyddiaeth, fel yr ych chi'n ei wneud gyda thrwydded yrru!

Os ych chi'n byw yn Aberystwyth mae'n dipyn o drafferth dod o hyd i le i sefyll y prawf yn y lle cyntaf. Dyma'r ymateb ges i o wefan British Citizenship wrth ofyn am lefydd yn ardal Aberystwyth - rhaid teithio bron i 100 milltir i'r lle agosaf!
Your five nearest centres are:
1 "Partneriaeth Menai Partnership"
"Coleg Menai" "Ffriddoedd Road" "Gwynedd"
Telephone: "01248 383 347" 90.11 miles

2 "The Learning & Enterprise Centre"
"University College Chester" " Parkgate Road" " Chester"
Telephone: "01244 220 404" 118.44 miles

3 "City of Newport Campus Coleg Gwent"
"Nash Road" "Newport" "Gwent"
Telephone: "01633 466001" 121.65 miles

4 "Cardiff ITEC"
"45 Penarth Road" "Cardiff" "S. Glamorgan"
Telephone: "029 2066 3800" 121.91 miles

5 "Jobchange Wolverhampton"
"10 Red Lion Street" "Wolverhampton" "West Midlands"
Telephone: "01902 714548" 133.92 miles
Gyda llaw fe sgoriais i 12 ar brawf y BBC, ac felly nid oes rhaid imi riporto fy hunan i'r awdurdodau, dwi'n credu fy mod yn Brydeiniwr wedi'r cwbl!

Tagiau Technorati: .