Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-10

Lewisiana

DGL yn annerch y gynulleidfaNos Fercher fe fues i yn lansiad llyfr newydd gan DGL ym mwyty'r Llyfrgell Genedlaethol, sef Pendinas. Roeddwn i wedi addo fisoedd yn ôl y buaswn i'n helpu gyda'r lansiad, ond wrth i'r noson ddod yn nes roeddwn i'n llai ac yn llai hyderus o'm gallu i ddifyrru cynulleidfa yn y lle anaddas hwnnw. Dwi'n siŵr y buasai nifer yn cytuno nad dyna'r lle hawsaf i greu awyrgylch ar gyfer perfformio. Ar ben hynny i gyd roeddwn i hefyd wedi bod yn ofnadwy o brysur ac heb gael cyfle i gynllunio'r noson yn iawn.

Ond roedd hi'n fraint i gael fy ngofyn i drefnu'r noson oherwydd mae'r llyfr yn gampwaith. Mae DGL wedi ysgrifennu rhes o lyfrau, gan gynnwys Geiriadur Gomer i'r ifainc a'r Llyfr Berfau, ond mae'n rhaid dweud fod Lewisiana yn gampwaith - yn ddeniadol i'r llygad yn ogystal ag i'r deall. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn ffan mawr o lyfrau ffeithiol GDL - yn enwedig y llyfrau 'gramadeg' y mae wedi'u hysgrifennu am ferfau, arddodiaid, ansoddeiriau a sillafu. Dwi'n gwybod ei bod hi'n dipyn o risg i gyfaddef hyn, ond rydw i'n darllen llyfrau GDL nid yn unig eu defnyddio fel cyfeirlyfrau. Mae Lewisiana yn ei hudo i'w ddarllen ar eich gwaethaf. Gyda'i ffeithiau rhyfedd a'i ddyluniad chwaethus mae'n llyfr sy'n bleser i'w ddal yn eich dwylo, ac unwaith iddo gyrraedd eich does dim ffordd i'w roi lawr.

Un peth arall cyffrous am y noson oedd fod y rhaglen deledu Wedi 7 ym mherson Alun Gibbard yn adrodd ar y noson yn fyw, ac fe gefais innau gyfle i ateb un cwestiwn cyflym cyn mynd yn ôl at y stiwdio a'r gwestai ar y soffa. Roedd rhyw bedwar neu bump ohonyn nhw yno i gyd; a'r hyn oedd yn ddiddorol oedd eu bod nhw i gyd yn siarad Cymraeg, ac i gyd yn pori yn Lewisiana. Cefais fy siomi ar yr ochor orau!

Rhagor o luniau o noson lansio Lewisiana.

Tagiau Technorati: | .