Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-06

Mab y pregethwr

Cynog yn darlithioWedi'r gwaith nos Wener fe wnes i aros ymlaen yn y Llyfrgell ar gyfer dau ddigwyddiad cysylltiedig, sef lansio hunangofiant Cynog Dafis, Cynog: mab y pregethwr, ac yna i wrando ar ddarlith yr Archif Wleidyddol Gymreig yn cael ei thraddodi gan Cynog.

Aeth popeth yn iawn ac fe wnes i fwynhau ar y cyfan. Ond rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i wedi disgwyl i Cynog gymryd 1¾ awr i draddodi ei ddarlith ar y berthynas rhwng y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yng Ngheredigion a Chymru. Roedd y ddarlith yn un ddiddorol iawn. Ond yna fe aeth yn ei flaen i draddodi darlith arall ar sut mae'r mudiad Gwyrdd wedi newid a gadael ei wreiddiau. Yna darlith arall ar bosiblrwydd clymbleidio eto rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd, ac yn olaf mae'n debyg y gallai fod wedi siarad am yr angen i glymbleidio yn y Cynulliad Cenedlaethol lle mae'r sustem o beth cynrychiolaeth gyfrannol yn golgyu fod cael mwyafrif dros bawb bron รข bod yn amhosib.

Dechreuodd y cyfarfod am 5.30pm ac erbyn 6.45pm roeddwn i'n dechrau edrych ar fy wats. Wedi 7.00pm fe wnes i roi'r gorau i edrych ar y wats gan sylweddoli nad oedd 'amser' yn golygu dim yn y sefyllfa hon. Roedd Cynog am wneud ei bwyntiau a dyna fyddai'n ei wneud doed a ddelo. Fe wnaeth gyfeirio at John Jones, Talsarn yn ei ddarlith a dwi'n siŵr y buasai hwnnw wedi gwerthfawrogi gallu Cynog i bregethu am yn agos i ddwy awr yn ein hoes ddiddwylliant ninnau!

Dwi wedi dechrau darllen y llyfr ac yn cael blas mawr arno. Byddaf yn siŵr o gyfeirio ato cyn bo hir, wedi imi orffen ei ddarllen.

Rhagor o luniau o'r lansiad a'r ddarlith.

Tagiau Technorati: | | .