Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-27

Gyrfa anrhydeddus?

Pan ddywedodd Saunders Lewis fod gyrfa milwr yn un anrhydeddus dwi ddim yn credu ei fod yn siarad am y fath beth a welwyd ar dudalen flaen y News of the world heddiw. Nid dynion porcyn yn ymladd mewn parc nes bod un ohonyn nhw yn ddiymadferth o dan arolygiaeth dau swyddog - un wedi'i wisgo fel llawfeddyg a'r llall fel merch ysgol o St. Trinian's - fuasai fy niffiniad i o 'anrhydeddus'. Ond pan glywais amdano yr oedd yn rhaid imi gael golwg ar y fideo, a felly dyma fi'n mentro am y tro cyntaf i wefan y News of the world a chael golwg ar y cyfan. Yn ddiweddarach wrth wrando ar drafodaeth am y peth ar y radio mae'n ymddangos fod y math hyn o beth yn digwydd yn gyffredin yn y lluoedd arfog fel dull o fondio. Dwi'n siŵr fod y math hyn o fondio wedi bod yn boblogaidd iawn gyda rhai yn y gorffennol - mae'n ddigon posib taw Saunders Lewis fuasai un o'r rheiny - a bydd yn denu rhai i'r dyfodol mae'n siŵr.

Dwi'n siŵr fod rhedeg o gwmpas yn y awyr agored gyda dynion ifainc noeth yn rhyweth sy'n swnio'n ddeniadol iawn ar un llaw, ond fuaswn i ddim yn credu ei bod hi'n werth i neb roi heibio ei egwyddorion pasiffistaidd er mwyn cymryd rhan yn y peth. Mae'n siŵr fod ffyrdd eraill o wneud hynny!

Tagiau Technorati: | | | .