Neithiwr fe fues i weld y ffilm 'Dracula' gyntaf erioed, sef Nosferatu, eine Symphonie des Grauens gan y cyfarwyddwr F. W. Murnau, a wnaethpwyd yn ystod yr 1920au - oes aur y diwydiant ffilmiau yn yr Almaen. Ymhlith ysmotwyr ffilmiau go iawn mae'n cael ei gweld fel y ffilm iasoer orau erioed. Wrth ei gwylio adref ar fy mhen fy hun mae'n rhaid imi gyfddef imi deimlo ychydig yn anniddig - mewn sinema gyda 100 o bobol o'm cwmpas, dwi'n ofni fy mod wedi dechrau sylwi ar rai o'r elfennau llai iasoer ac ychydig yn fwy echreiddig yn y ffilm. Eto i gyd roedd hi'n noson dda o ddiddanwch gan fod y ffilm, ffilm dawel yw hi, yn cael ei dangos i gyfeiliant piano byw a hynny yn Drwm Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle dwi wedi byw y rhan fwyaf o'm bywyd dros y pythefnos diwethaf.
Mae hanes diddorol iawn i'r ffilm gan iddi bron â chael ei cholli yn gyfangwbl oherwydd i weddw Bram Stoker, awdur y nofel 'Dracula', fynd â gwneuthurwyr y ffilm i'r llys am dorri ar ei hawlfraint. Bu'n rhaid dinistrio'r holl gopïau a negyddion oedd yn bodoli, ond rhyw fordd neu'i gilydd fe lwyddwyd i gadw rhai copïau ac yn raddol maen nhw wedi dod i'r golwg. Fe gawsom ni weld copi a adferwyd ar gyfer ei dangos ar Channel 4. Fe gawsom hefyd y fraint o gael rhagarweiniad i'r ffilm gan Dave Berry, awdur Wales and cinema: the first 100 years, sy'n cinéaste heb ei ail ac yn llawn brwdfrydedd. Yn ôl Dave fe allai wylio'r ffilm Nosferatu bob dydd; mae unwaith neu ddwywaith bob deng mlynedd yn ddigon i mi. Diolch DJP am fy annog i fynd, rhoi lifft imi, a thalu am fy nhocyn!
Gallwch ddarllen y nofel Dracula fel e-destun yn Project Gutenberg.
Gallwch wylio Nosferatu ar y rhyngrwyd yn yr Internet Archive, er dwi'n siŵr taw'r sinema yw'r lle gorau o hyd.
Tagiau Technorati: Nosferatu | Dracula | Sinema.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.