Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-01

Colli ffrind

Fe fues i mewn angladd ddoe, angladd ffrind i mi. Roedd ACD yn ddigon hen i fod yn dad i mi; a phetai rhywun wedi dweud y gallen i fod wedi bod yn ffrind rhyw ddydd gyda rhywun yr un oed â'm tad ni fuaswn wedi credu'r peth. Ond roedd hynny cyn imi ddod i adnabod y rhyfeddol ACD yn iawn. Dyma ddyn a oedd yn caru bywyd yn ei holl gyflawnder, ac roedd y cariad hwnnw at fywyd yn cael ei adlewyrchu ym mhob dim yr oedd yn ei wneud. Yr oedd wedi llenwi ei fywyd ei hun â gwasanaeth hyd nes ei fod yn goferu, a'r goron ar bob gwasanaeth i ACD oedd gwasanaethu yr Arglwydd. Dwi'n diolch i Dduw am fod wedi cael ei adnabod, ac am fod wedi ei gael yn gyfaill am bron i ddeng mlynedd: am fod wedi cael cyngor ganddo pan oedd angen, am fod wedi ei glywed yn adrodd ei straeon fel cyfarwydd cynnil, am fod wedi rhannu rhai profiadau gydag ef, am fod wedi bod yn denant iddo, am fod wedi cael croeso ganddo, am ei fod wedi ymddiried ynof finnau a chaniatáu i mi i fod o gymorth iddo yntau hefyd. Nid oes amheuaeth y bydd Cymru'n dlotach hebddo, ond bydd unigolion oedd yn ei adnabod yn dlotach hefyd. Byddaf fi yn gweld ei eisiau yn fawr iawn ond yn llawenhau nad yw pob cysylltiad wedi'i dorri rhyngom - yr ydym ni'n dau yn aelodau o'r un Eglwys ac yn dal i fyw yng nghariad Duw tragwyddol Duw, ac ni all angau nag un dim arall newid hynny na dod rhyngom.

Gorffwys dyro, Grist, i'th was gyda phawb o'th saint,
lle nid oes gofid mwy na phoen,
na gorthrymderau blin a gwae,
ond bywyd yn dragwyddol.


Rhagor o ffotograffau a dynnwyd ddiwrnod yr angladd.

Tagiau Technorati: | | .