Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-05

Caffi newydd

Coffi a chacenYn union ar ôl gwaith nos Fercher bu RO yn ddigon caredig i gynnig lifft imi fynd i'r caffi sydd newydd agor yn Cambrian Place, Aberystwyth. Dyma lle'r oedd y bwyty Serendipity yn arfer bod. Mae'r caffi newydd yn lle hyfryd; ond efallai bod 'na ddau beth amdano a allai fod yn broblem. Yn y lle cyntaf, mae'r enw'n eithaf di-flach, Freshly Ground Café; yn ail, nid oes gan y lle drwydded i weini alcohol, sy'n fwy o broblem i rai. Maen nhw'n gwneud prydau ysgafn ac fe gafodd RO a finnau y cawl moron ac oren - roedd y blas yn byrstio ar eich tafod, roedd yn boeth, ac roeddech chi'n cael cwgen a chaws ychwanegol am £2.70. Wedyn fe gawson ni bobo gacen am ryw £1 yr un, ac fe ges i Americano mawr (iawn) am £1.40. Y peth gwych am y caffi yw ei fod yn agored gyda'r nos tan rhyw 11 a bod eu holl goffi a the yn rhai masnach deg. Bydd yn rhaid galw 'nôl cyn bo hir.

Rhagor o luniau o Freshly Ground Café.

Tagiau Technorati: | .