Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-22

Blogiadur yn cael hoe

Dyw e ddim wedi bodoli am fwy na rhyw fis neu ddau ond yn barod dw i wedi dod i ddibynnu ar y Blogiadur, ac felly mae'n gymysgedd o newyddion da a newyddion drwg fod ei boblogrwydd yn golygu y bydd yn cymryd hoe am ychydig er mwyn ei uwchraddio. Roedd hi mor hawdd troi at y Blogiadur i weld beth oedd pawb arall yn ei flogio yn hytrach na gorfod mynd o un i'r llall. Dwi'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yn ôl cyn bo hir. Diolch yn fawr, Aran, neu Diolch yn fawr Mr Blogiadur.

Tagiau Technorati: | .