Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-06

Atalfa'r awdur

Dyma'r tro cyntaf i atalfa'r awdur fy nharo gyda'r fath effaith. Ers bron i wythnos bûm wrthi'n ceisio ysgrifennu erthygl i'r cylchgrawn Barn, heb ddim o werth yn ymddangos. Dwi wedi bod yn gorfodi fy hun i ysgrifennu rhywbeth, ac ar ôl gorfodi fy hun ysgrifennu dyw'r hyn wnes i ei ysgrifennu ddim yn haeddu'r drafferth o'i ddarllen hyd yn oed. Ond o'r diwedd heno dwi wedi llwyddo i gael rhywbeth ar bapur. Roeddwn i wedi dechrau poeni a oeddwn i wedi fy nghondemnio i beidio ag ysgrifennu dim byd byth eto.

Wrth chwilio'r we am gymorth fe sylweddolais fod 'na ddigon o bobl sy'n profi'r atalfa weithiau ac roedd hynny'n hanner cysur. Cefais 12 o gynghorion diddorol ar wefan FreelanceWriting.Com ac yn dyfodol dwi'n meddwl ceisio'u defnyddio.

Tagiau Technorati: | .