Mae cofio'n bwysig, mae cofio'n hanfodol; ond ai dim ond y sefydliad sydd â'r hawl i ddweud wrtha i sut i gofio? Mae'n ymddangos taw dyna'r sefyllfa o hyd. Rhaid cofio o fewn cyd-destun Prydeinig a milwrol a di-gwestiwn. Dyna pam dwi'n teimlo mor grac gyda Huw Edwards am fod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd yn Neuadd Albert bob blwyddyn. Mae ei glywed e yn datgan taw hyn a'r llall oedd "our nation's greatest hour" yn fy ngwneud yn sal. Eleni roedd 'na deyrnged i Nelson ar adeg dau can mlwyddiant ei fuddugoliaeth ym mrwydr Trafalgar. Ond yr unig fuddugoliaeth wela i yn y peth oedd fod y wladwriaeth Brydeinig wedi atal Ffrainc rhag gwneud yn union beth yr oedd hi ei hun am ei wneud; sef hwylio dros y byd i gyd, ymweld â llefydd pellennig a chwedyn ladd y brodorion a dwyn eu gwledydd oddi arnynt. Roedd Trafalgar yn rhan o'r broses o hwyluso ymestyn yr Ymerodraeth Brydeinig gyda'r holl ganlyniadau positif a da a ddaeth o hynny!
Mae cofio am frwydrau a rhyfeloedd sy'n dal i fod yn fyw yng nghof pobol yn bwysicach fyth. Ond ai trwy arddangosiad o filitaria a dathliad o Brydeindod mae gwneud hynny? Yn fy marn i dylid caniatáu amrywiaeth o fewn i'r dathliadau "swyddogol" sy'n cael eu trefnu'n bennaf gan y Lleng Brydeinig. Ond gan fod pob dathliad lleol yn ceisio'i orau i fod yn adlewyrchiad o'r hyn sy'n digwydd yn Neuadd Albert mae'r cyfle yn brin. Beth os nad ydych chi am gofio trwy fartsio neu ddilyn baner yr Undeb o gwmpas? Beth os ych chi am gofio fel Cymro o heddychwr; ond y gwir amdani yw nad mewn seremoni fawreddog yn Neuadd Albert, neu mewn seremonïau tebyg ar hyd a lled ein gwlad y buasai Cymro o heddychwr yn dewis cofio 'ta beth. Ond un peth sy'n siŵr dwi ddim yn credu y buasai lle i Huw Edwards yno!
Tagiau Technorati: Huw Edwards | Sul y Cofio | Rhyfel.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.