Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-18

Last days of Dolwyn (1949)

Last days of Dolwyn (1949)Nos Fercher fe gefais y pleser o wylio'r ffilm Last days of Dolwyn unwaith eto; ond yn wahanol i bob tro arall, roeddwn i'n gweld y ffilm am y tro cyntaf ar y sgrîn fawr. I'r rhai ohonoch chi sydd heb weld y ffilm byddwn i'n yn eich annog i ddal ar y cyfle os bydd yn codi. Mae'n ffilm digon arwynebol, ac eto i gyd mae 'na ddigon i'w fwynhau yno hefyd. Mae'r stori'n digwydd mewn pentref paradwysaidd mewn dyffryn prydferth yng Nghymru rywle gyda Rob Davies (dyn a erlidwyd o'r pentref pan yn ddeuddeng mlwydd oed) yn dod yn ôl fel asiant i Arglwydd Lancashire gyda'r bwriad o foddi'r pentref fel ffordd o ddial ar y trigolion ond o dan gochl cyflenwi dŵr i ddinasoedd Swydd Gaerhirfryn. Dyma'r unig ffilm a gyfarwyddwyd gan Emlyn Williams, ac ef sy'n chwarae rhan Rob Davies. Arwres y ffilm yw Merri, sy'n cael ei chwarae gan Edith Evans, ac mae hi bron â llwyddo i wrthweithio bwriadau drwg Rob Davies, hyd nes bod ei mab, sy'n cael ei chwarae gan Richard Burton (yn ei ffilm gyntaf), yn lladd Davies ac mae Merri yn boddi'r pentref er mwyn cadw'r drosedd yn gyfrinach.

Wrth gwrs mae'r ffilm yn fwy na dim ond hynny, mae llawer o Gymraeg ynddi, a dro ar ôl tro mae dyn yn ymwybodol fod rhai o rwystredigaethau a chymlethdodau Emlyn Williams ei hun yn dod i'r golwg. Un sy wedi trafod y ffilm yw Gwenno Ffrancon yn ei llyfr Cyfaredd y cysgodion : delweddu Cymru a'i phobl ar ffilm, 1935-1951. Yno mae'n dweud, ar ôl edrych ar rai o rinweddau'r ffilm, fod y diweddglo yn gwanahu'r ffilm yn fawr iawn:
... y mae i The last days of Dolwyn wendidau amlwg, yn enwedig y diweddglo sy'n frith o ddigwyddiadau annhebygol a melodramatig... Pa ryfedd i feirniaid ffilm megis Lionel Collier nodi yn sgil gwylio'r clo rhyfedd hwn: 'For three-quarters of its length the film is sheer poetry, but it falls steeply downhill into melodramat completely out of touch with its character in the last quarter.' Penderfynodd Emlyn Williams ymwrthod â'r cyfle i gynnwys elfen o ddrama ddiffuant wrth gloi'r ffilm. Yn hytrach, dan rith melodrama, creodd glo rhwysgfawr ac annhebygol a oedd, yn ô C. A. Lejeune, megis, 'something dabbed on as an afterthought by a hasty hand, which can be scraped off without leaving the film one jot the poorer.' (t.157)
Mae Ffrancon yn cadw ei sylwadau mwyaf beirniadol ar gyfer Emlyn Williams ei hun a'i berthynas â Chymru:
Dagrau pethau o safbwynt Emlyn Williams i bortreadu Cymru a'i phobl yw na lwyddodd i oresgyn yr amwysedd yn ei agwedd tuag at ei famlwad nac ychwaith i dreiddio'n ddwfn i'r amwysedd hwnnw. Er ei ddisgrifio yn neunydd cyhoeddysrwydd y ffilmiau [sef, The corn is green a The last days of Dolwyn] fel 'cendelaetholwr angerddol', fel y gwelsom, mynd y tu arall heibio a wnâi pan godai unrhyw bwnc llosg gwleidyddol. Ni lwyddodd yn y naill ffilm na'r llall i dafoli yn argyhoeddiadol y gwahaniaethau dosbarth a geid yng Nghymru nac ychwaith y tensiwn rhwng ei ymlyniad wrth Gymru fel ei famwlad a'i serch at Loegr fel ei wlad fabwysiedig. Gwelir yr amwysedd a'r cymhlethdod yn ei agwedd at Gymru yn yr araith a draddododd yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym 1953: 'Yn ôl i gartre' oedd ei theitl, ac er iddo swyno'r dorf â'i ddarlun sentimental o'i lencyndod, y mae'n gwbl amlwg mai Rhydychen a Llundain oedd byd y mab afradlon disglair hwn. Yn achos The corn is green a The last days of Dolwyn, ei lwybr ymwared oedd gosod ei ffilmiau yn y 1890au a'u gorliwio i'r fath raddau nes creu meolodrama. Dewisodd gynnal darlun dethol, hiraethus ac ystrydebol o Gymru yn hytrach na crheu portread gwreiddiol a blaengar a archwiliai'r arwyddocad o fod yn Gymro amwys. (t.161)
Last days of Dolwyn (1949)Er fod hynny i gyd yn wir, ac er taw darparu Cymru fel buasai'r Saeson am ei gweld hi y mae Emlyn Williams yn ei wneud yn y ffilm, mae 'na rinwedd iddi hefyd. Hyd nes cyrraedd diwedd anhygoel mae'n ddifyr ac mae'r defnydd cyson o'r Gymraeg mewn ffilm o'r cyfnod yn drawiadol. Fy hoff gymeriad i yw'r pregethwr sy'n llwyddo i gychwyn diwygiad bron dim ond wrth ynganu'r frawddeg 'John the Baptist' gyda digon o 'hwyl'. Dylwn ddysgu gwers o hynny!

Cefais y fraint o wylio'r ffilm yng nghwmni IBJ. Mae yntau yn enedigol o bentref Rhyd-y-main, sy'n sefyll rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau, ac yn yr ardal honno y ffilmiwyd llawer o'r golygfeydd allanol sydd yn y ffilm.

Tagiau Technorati: | | .