
Felly nid rant a gafwyd ond yn hytrach arweiniad drwy gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol a'r newidiadau a fu dros y blynyddoedd diwethaf. Teitl ei ddarltih oedd Rebalancing the constitution a'r thema oedd fod y gwaith o ddiwygio'r cyfansoddiad heb ei orffen eto. Yn hynny o beth fe ganolbwyntiodd ar Gymru a'r gwir nad yw'r setliad yn un sydd yn gweithio yma. Nododd y newidiadau arfaethedig ym mhapur gwyn y Llywodraeth Trefn lywodraethu well i Gymru. Yr oedd yn arbennig o feirniadol o benderfyniad y Llywodraeth i geisio newid y sustem etholiadol yng Nghymru gan gael gwared o'r hawl i sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol - "vindictive" oedd disgrifiad Robert Hazell o'r holl beth. Doedd ganddo ddim rhyw lawer i'w ddweud wrth y syniad y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fynd o'i sefyllfa 'ddeddfu' bresennol mewn tri cham, ac yn arbennig Gorchmynion Cyfrin Gyngor. 'Pam na ddylid mynd yn syth at bwerau deddfu cynradd?' holodd gan gyfaddef taw problemau Plaid Lafur Cymru oedd yn gyfrifiol am fethu gwneud hynny. Wedyn bu'n edrych ar sefyllfa'r Alban a'r cylluniau i roi mwy o bwerau i Senedd yr Alban, ac yna edrychodd ar effaith hyn i gyd ar Loegr.

Efallai nad ydw i'n ddyn cyffredin ond fe wnes i fwynhau'r ddarlith a dysgu oddi wrthi. Efallai fy mod wedi treulio gormod o amser yn edrych ar beth sydd wedi bod yn digwydd yng Nghaerdydd heb sylweddoli beth arall oedd yn digwydd yn y Deyrnas Gyfunol yr un pryd. Dyma symbyliad i ddangos mwy o ddiddordeb yn y pethau hynny.
Roedd y noson yn fwy na darlith oherwydd fe gefais wahoddiad i dderbyniad ymlaen llaw gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Bwyd neis a deniadol! Cwmni reit ddifyr hefyd. Dwi ddim yn gwybod sut ydych chi mewn sefyllfa o'r fath, ond dwi'n reit hoff o gael pobol dwi'n eu hadnabod o gwmpas, er mwyn gwneud ambell i ymgais i siarad â phobol eraill, ond gan wybod fod 'na le saff i ddod 'nôl iddo!
Rhagor o luniau o'r ddarlith.
Tagiau Technorati: Datganoli | Cyfansoddiad | Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru | Darlith | Gwleidyddiaeth.