Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-11-18

Archfarchnad lyfrau

Siop Borders, Fforest-fachAr ôl bod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fe alwon ni yn un o ganolfannau siopa Abertawe yn Fforest-fach. Roeddwn i am fynd yno i weld siop lyfrau Borders – er 'mod i wedi clywed llawer am y lle doeddwn ddim wedi bod yno o'r blaen. Mae'n drawiadol iawn i weld siop lyfrau yng nghanol y ffair fasnachol arferol sydd yn Parc Fforest-fach: Tesco, Argos, Dixons, a hyd yn oed W H Smiths.

Y siop goffi, Borders, Fforest-fachEfallai y peth cyntaf y dylwn i ddweud am y siop yw ei bod hi'n enfawr gyda digon o le i edrych a phori. Fe allech chi fod yno am oriau heb i neb darfu arnoch chi. Yn ychwanegol at hynny mae 'na siop goffi yn rhan o'r siop lle allwch chi fynd a chael paned tra'n penderfynu ar ba lyfr neu dvd neu CD neu gylchgrawn yr ydych am eu prynu. Roedd y lle'n olau ac yn ddymunol. Roedd y lle hefyd yn rhyfeddol o lawn - dwi'n credu efallai taw'r coffi oedd yn denu llawer, ond i gyrraedd y coffi roedd yn rhaid mynd reit drwy'r siop gyda'i silffoedd yn llawn o lyfrau deniadol a phoblogaidd a gwerthdawy - dwi ddim yn credu imi erioed weld cymaint o lyfrau Jamie Oliver mewn un man o'r blaen.

Siop Borders, Fforest-fachOnd nawr dyna ddechrau dod at y broblem gyda'r lle hefyd, doedd dim byd newydd neu allan o'r cyffredin i'w weld yno yn yr adrannau y cefais rhyw awr i dwrio ynddynt. Roedd popeth poblogaidd yno wedi'i peilio lan i'r nenfwd; ond mae'n amlwg os nad oeddech chi'n Alan Bennett oedd yn medru sifftio dwy dunnell fetrig o Untold stories mewn pythefnos nad Borders oedd y lle delfrydol ichi geisio gwerthu eich nwydd. O ran gwerthiant mae'n rhaid fod y siop hon a siopau eraill o'u bath yn ffordd o werthu llawer mwy o lyfrau, ond llawer mwy o lyfrau o'r un fath. Nid byd yr llyfrwerthwr 'amatur' yw hwn, trosiant ac elw uchel a lleihau gorbenion yw'r unig bethau sy'n gyrru fan hyn. Ac maen nhw'n gwybod taw'r unig ffordd i lwyddo yw trwy gynnig cyfleusterau siopa da i bobl, creu'r awyrgylch siopa sydd yn mynd i alluogi pobl i wario. I mi sy wastad yn chwilio am yr anghyffredin, yr ecsotig a'r gwahanol, nid Borders na'r siopau cadwyn mawr fydd fy nihangfa naturiol; eto i gyd ar ôl dweud hyn 'na fe lwyddais i brynu cwpl o lyfrau yma, neu'n hytrach fe lwyddodd Borders i wneud imi wario!

Rhagor o luniau o Broders, Fforest-fach.

Tagiau Technorati: | | .