Pan ddechreuais i flogio 'nôl ym mhellafoedd Ionawr eleni fe wnes i un adduned bwysig, sef peidio byth â blogio am fy ngwaith. Dwi wedi cadw'n reit agos at yr adduned honno - yr unig adduned i mi lwyddo i'w chadw cystal erioed! A dyna sy'n esbonio tawelwch dros y pythefnos diwethaf. Dros y cyfnod hwnnw mae fy ngwaith wedi meddiannu fy mywyd; petawn i'n gweithio yn y ddinas dwi'n siŵr y gallwn ddisgwyl bonws hael, ond fel un sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus nid yw pethau'n gweithio cweit fel 'na.
Ond dwi am dorri f'adduned am y tro i sôn am gyffro dydd Sadwrn diwethaf. Roedd y Llyfrgell Geneldaethol wedi trefnu cynhadledd undydd i drafod ffotograffiaeth ddogfennol, LENS, ac fel mae'n digwydd roeddwn i'n cael cyfle i sôn am fy hoff destun - sef y ffotograffydd o Gellan, Ceredigion, John Thomas (1838-1905). Roedd gweddill y rhaglen yr un mor ddiddorol - ffotograffiaeth gynnar Abertawe, Geoff Charles, Marian Delyth a Rhodri Jones! Ond y cyffro mawr oedd presenoldeb un o gewri'r camera Philip Jones Griffiths. Cefais gwrdd ag ef reit ar ddechrau'r dydd; yn anffodus doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Credais y byddai 'Dwi'n hoffi'ch ffotograffau' yn swnio braidd yn ystrydebol ac heb ryw lawer o argyhoeddiad y tu ôl iddo. Felly fe wnes i gymryd arnaf nad oeddwn wedi fy nghyffroi o gwbl - sôn am ymateb twp!
Rhagor o luniau o gynhadledd LENS.
Tagiau Technorati: Ffotograffiaeth | Enwogion | Philip Jones Griffiths.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.