Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-12

Wedi bod yn sâl

O'r diwedd dwi'n dod dros fy salwch sydd wedi fy ngadael yn eithaf diflas ers tri diwrnod. Nos Sul roeddwn i'n teimlo bod fy llwnc yn dost, erbyn bore Llun roedd yn waeth ac es i ddim i'r gwaith. Doeddwn i ddim yn gwella ac roeddwn yn cael fy hun yn ymweld â'r tŷ bach yn fwy aml nag y byddwn i'n ei ddymuno. Ond heno dwi'n well, neu dwi'n feichiog, achos dwi'n crefio am géjeri (neu, kedgeree). Ond doedd gen i ddim haner y cynhwysion wrth law, ac felly dyma fodloni fy nymuniad trwy fwyta uwd! Mae'n profi fy mod yn teimlo'n well.

Tagiau Technorati: | | .