Dwi'n teimlo'n hunan-ymwybodol iawn yn sôn am wleidyddiaeth ar y blog. Mae unrhywbeth wna i ei ddweud y swnio'n gwbl ymhonnus, er ei fod efallai'n gwbl wir mewn rhai achosion prin. Dwi'n teimlo'n llawer mwy cyfforddus yn sôn am bynciau mwy domestig, fel y rhaglen nesaf yng nghyfres Margaret Williams fydd yn cael eu darlledu nos yfory. Ar y cyfan dwi wedi rhoi'r gorau i edrych ar deledu yn gyffredinol; yn hytrach dwi'n dewis yn ofalus beth dwi am ei wylio ac yn cadw at hynny. Mae hi mor hawdd jyst eistedd o flaen y teledu a derbyn unrhwbeth sy'n dod atoch chi. Yng nghefn fy meddwl mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn credu fod teledu yn araf bydru'r ymennydd ac yn dinistrio'r gallu i ddychmygu. Ond ar nos Sadwrn dwi'n anghofio hynny i gyd ar gyfer Margaret ... a Bethan Gwanas.
Tagiau Technorati: Margaret Williams | Bethan Gwannas | Teledu.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.