Dwi'n cofio darllen rhywle fod llywodraethau'r Gorllewin yn dilyn ar gwymp y gwladwriaethau a'r drefn Gomiwnyddol yn nwyrain Ewrop wedi chwilio am ffyrdd newydd o'n cadw ni o dan reolaeth. Unwaith roedd ofn ymosodiad niwclear gan yr Undeb Sofietaidd yn ddigon i'n cadw ni'n llywaeth. Erbyn hyn mae ganddynt llond cwpwrdd o bethau i'n cadw ni mewn ofn parhaol: prisau tai, morgeisi dodji, pensiynau annigonol, bwydydd llygredig, terfysgwyr o bob lliw. Bellach mae adar wedi'u recriwtio i fod yn rhan o hyn wrth i ffliw'r ednod ddod yn nes ac yn nes tuag atom. Fe wyliais bwt amdano ar raglen Newsnight heno a oedd yn awgrymu fod adar wrth fudo yn targedu gorllewin Ewrop. Roedden nhw'n dangos map ohonynt yn cynllwynio i fynd tuag at Rwsia yna lawr drwy'r Cawcasws i Dwrci. Ac o Dwrci i Aberystwyth!!!
Pwy mewn difrif fydd am fynd allan i sefyll ar y baricêds ac arwain y werin yn y chwyldro pan fo 'na bosibilrwydd cryf y gallai gwylan gachu ar ei pen chi a rhoi ffliw'r ednod ichi. Dwi'n credu taw rhyw fath o gynllwyn gan Tony Blair, George W. Bush a rhai unigolion eraill yw hyn i gyd.
Tagiau Technorati: Ffliw'r ednod | Gwylanod | Ofn.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.