Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-05

Swper Nos Sadwrn

Pizza RO a DogfaelAr ôl holl gyffro'r dydd roeddwn i'n chwilio am nos Sadwrn tawel. A dyna a gafwyd. Fe ges i ac RO wahoddiad i rannu pizzas gyda'r cymdogion. Ac fe geson ni groeso cynnes. Fe gafodd RO a finnau bizza i rannu rhyngom, sef un 'hot & spicy' o Hollywood Pizza yn Heol y Wig. Roedd y cwmni yn ddifyr iawn yn y tŷ, gyda'r ddau blentyn, MLJ a TLlJ, yn cystadlu gyda'i gilydd i fod yn ddifyr dros ben ac i adrodd hanesion diddorol. Roedd MLJ yn adrodd hanes eu hymweliad i'r dref ddydd Gwener gyda'i ffrindiau fel rhan o barti pen blwydd un ohonynt (agoriad llygad i hen lanc anwybodus), tra'r roedd TLlJ yn dweud beth oedd y digwyddiadau diweddaraf yng Nghwmderi. Wedi swper eistedd o flaen y teledu i fwynhau gwledd o Margaret Williams a Chôr Newyddion Da o Sir Benfro, a hynny a set deledu 28". Diolch IBJ a GC!

Margaret Williams a Chôr Newyddion DaMae 'na bobol i'w cael sy'n snobiau yn achos Margaret Williams. "Dim ond cyfieithiadau mae hi'n ei chanu, a'r rheiny'n gyfieithiadau gwael" mynte nhw. A dyna'r union yr un snobiau sy'n tyrru i weld a gwrando ar Bryn Terfel yn yr eisteddfod yn canu cyfieithiadau. Ragrithwyr dwy-wynebog! Yn ei ffordd ei hun mae Margaret Williams wedi cyfranu cymaint â neb i'r byd adloniant Cymraeg, a hynny fel actores a chantores. Nid celfyddyd uchel ael mohono, mae hynny'n ddigon gwir; ond mae'n dda yn yr hyn mae'n ei wneud. Dwi'n cofio clywed Phyllis Kinney yn talu teyrnged iddi am ganu caneuon poblogaidd yn Gymraeg ar raglen deledu beth amser yn ôl. Rydym newydd fod yn dathlu gwaith y grŵp rhyfeddol Y Cyrff - heb waith arloesol Margaret yn dangos ei bod hi'n bosib canu caneuon poblogaidd yn y Gymraeg mae'n ddowt gen i a fyddai unrhyw un wedi meddwl am ffurfio grŵp yn canu yn Gymraeg mewn oes ddiweddarach. Diolch unwaith eto Margaret! Cyfiethu wnaeth llawer iawn o'n harloeswyr ym myd y llyfrau; wedyn y gwelson ni waith gwreiddiol yn ymddangos yn Gymraeg - cofied y snobiau hynny.

Rhagor o luniau o nos Sadwrn.

Tagiau Technorati: | | | | .