Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-05

Dydd Sul

Coffi yn y Cambrian Tea Rooms fore SulDydd Sul prysur fel arfer. Bues i mas yn y bore yn Eglwys S. Mair yng ngwasanaeth y Foreol Weddi ac yna ymlaen i gael coffi yn Ystafelloedd Te y Cambrian. Roedd WVD a finnau wedi bod yma y Sul blaenorol, ond heddiw fe gawson ni gwmni dau arall. Roedd hi'n hyfryd cael MP nôl yn y cwmni ar ôl ei salwch hir, ac wedyn fe wnaeth WT ymuno â ni. Mae WT yn siarad Almaeneg, a dyna roedd e'n siarad gyda WVD; mae e hefyd yn siarad Eidaleg a dyna roedd e'n ei siarad gyda Diletta, y wraig oedd yn gweini arnom. Roedd hi wrth ei bodd - rhywun yr oedd hi yn ei ddeall o'r diwedd, dyw ei Saesneg ddim yn gryf iawn ac mae wedi dod yma i Aberystwyth i'w wella. Mae hi'n dod yn wreiddiol o Brescia yn Lombardi.

Wedi iddyn nhw fynd fe ymunodd DJP ac RO a mi am ginio. Wedi cinio roedd yn rhaid imi fynd i gael golwg ar y bregeth yr oeddwn i'w thraddodi y noson honno, yn Eglwys S. Mair unwaith eto. Fy nhestun oedd yr adnodau o ddechrau y bumed bennod o lythyr S. Paul at Gristnogion Rhufain:
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 2 Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i'r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo. Yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn y gobaith y cawn gyfranogi yng ngogoniant Duw. 3 Heblaw hynny, yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw'r gallu i ymddál, 4 ac o'r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad, ac o gymeriad y daw gobaith. 5 A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.
Gobaith oedd un o fy themâu; rhywbeth y mae angen llawer mwy ohono yn ein byd.

Tagiau Technorati: | | .