Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-03

Mwy o lyfrau eto

Jasper Fforde yn cael ei gyfweldOs nad oedd nos Wener yn ddigon bues i yn nghwmni llyfrau drwy'r dydd drannoeth. Ddydd Sadwrn roedd Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu diwrnod o weithgareddau o dan yr enw Adnabod yr awdur ac yn cynnwys cyflwyno Gwobrau diwydiant cyhoeddi yng Nghymru am y tro cyntaf. Yn y bore roedd 'na sesiwn i bawb unedig i bawb ac yna dewis o bedair sesiwn llain - dwy yn Gymraeg a dwy yn Saesneg. Y pris sesiwn oedd cyfweliad gyda'r awdur Jasper Fforde. Mae'n anodd iawn disgrfio'r math o lyfrau mae Jasper Fforde yn eu hysgrifennu'n iawn, dim ond i ddweud eu bod yn nofelau sy'n ymwneud â nofelau eraill, a'u bod yn swnio'n ddigon difyr. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn wedi clywed amdano tan y diwrnod a fy mod heb ddarllen dim o'i waith. Fe wnaeth argraff reit dda arna' i gan fy mod bellach yn bwriadu chwilio am un neu ddau o'i lyfrau i'w darllen.

Rhys Evans a Hywel GwynfrynYn dilyn y sesiwn yna fe es i ymlaen i sesiwn Gymraeg wedi'i chadeirio gan Dylan Iorwerth ar gofiannau ac hunangofiannau. Roedd dau ar y panel: Rhys Evans, y newyddiadurwr, sydd ar fin cyhoeddi bywgraffiad i Gwynfor Evans, Rhag pob brad, a Hywel Gwynfryn wnaeth gyhoeddi ei hunangofiant, Y dyn ei hun. Cafwyd trafodaeth fawr ar y berthynas rhwng delwedd gyhoeddus rhywun a'i bywyd preifat; rhywbeth sy'n wir am bawb, ond yn arbennig o wir mae'n ymddangos yn hanes Hywel Gwynfryn a Gwynfor Evans. Yn ein hoes ni y preifat a'r tywyll yw'r prif beth yr ydym am eu gweld mewn cofiannau! Os yw bywyd eich gwrthrych neu'ch hun heb ryw lawer o dywyllwch yna mae'n debgy na fydd gan unrhyw gyhoeddwr ddiddordeb bellach. Sesiwn ddiddorol iawn.

Lluoedd y Cyngor LlyfrauAr gyfer cinio roedd trefnwyr wedi darparu pryd pacedig i bawb. Roedd gweld yr holl becynnau yn un rhes ar ford ar ôl ford yn swreal iawn. Ond roedd y cynnwys yn bell o fod yn swreal - roedd yn flasus iawn. Yn ystod yr awr ginio cefais gyfle i edmygu y crysau-T arbennig roedd y stiwardiaid o blith staff y Cyngor Llyfrau a sefydliadau eraill yn eu gwisgo. Roedd hi'n braf iawn dros ginio hefyd i gael sgwrs gyda hwn a'r llall am lyfrau a phob pwnc o dan haul.

WVD, DJP a WT yn cael hoe o'r holl ddiwylliantY sesiwn gyntaf yn y prynhawn oedd sesiwn lawn gyda'r awdur Simon Brett yn siarad. Yn anffodus roedd yn rhaid imi fethu'r sesiwn honno wrth imi chwilio am le i wneud llungopïau o gyhoeddiadau'r eglwys ar gyfer y Sul. Yn ôl rhai, gan gynnwys y Dr MWR, roedd yn fwy difyr na Jasper Fforde, felly mae'n rhaid ei bod hi wedi bod yn sesiwn dda iawn. Yn ffodus roeddwn i yn ôl yn y Neuadd Fawr ar gyfer seremoni gwobrau'r diwydiant cyhoeddi. Meistres y seremoni oedd Elinor Jones, cyflwynwraig y rhaglen gylchgrawn fyw ar S4C Digidol, Wedi 3. I gyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr roedd y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh AC, yno. A diolch byth am hynny, achos ei bresenoldeb ef oedd yn gyfrifol am fy hoff atgof i am y diwrnod i gyd - sef gweld un o gynrychiolwyr gwasg Y Lolfa yn derbyn gwobr o law y Gweinidog am y gwerthwr gorau ffeithlen oedolion, sef Welsh valleys humor gan David Jandrell. Mae'n rhyfedd sut mae llyfrau yn medru denu y bobol ryfeddaf at ei gilydd, Yn bendant bydd yr olygfa honno yn aros yn y cof am dipyn.

Rhagor o luniau o ddiwrnod Adnabod yr awdur.

Tagiau Technorati: .