Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-10-14

Bwletin byr am Iseldireg

Dwi newydd sylweddoli nad ydyw i wedi bod yn dweud rhyw lawer am fy ymdrechion i ddysgu Iseldireg ar y blog yn ddiweddar. Wel, dwi'n dal i fod yn gweithio drwy'r cwrs Nederlands voor anderstaligen. Erbyn hyn dwi'n medru holi ac ateb cwestiynau reit uchelgeisiol, ond diwerth ar eu pennau eu hunain, megis: Welke dag is het vandaag? Vrijdag, hynny yw, 'Pa ddiwrnod yw hi heddiw? Dydd Gwener'. Dwi'n paratoi ar hyn o bryd i anfon fy nhrydydd gwaith cartref at fy nhiwtor personol yn Fflandrys. Ysgwn i beth fydd ganddo i'w ddweud am fy nghynnydd neu ddiffyg cynnydd hyd yn hyn?

Tagiau Technorati: .